PAM YMAELODI AG UCAC
Mae UCAC:
yn bod er mwyn amddiffyn buddiannau athrawon a darlithwyr Cymru
Ers ei sefydlu mae UCAC wedi dangos ei allu i ennill achosion pwysig dros ei aelodau. Mae gan yr Undeb adrannau yn ymwneud â phob agwedd ar waith athro a darlithydd. Mae'r rhain yn brwydro'n gyson i sicrhau amodau gwaith gwell i athrawon a darlithwyr Cymru.
yn cynnig cymorth parod o fewn cyrraedd
Mae gan UCAC Swyddogion Maes cyflogedig llawn amser sydd wrth law i ateb eich cwestiynau a datrys eich problemau. Gall un alwad ffôn sicrhau cysylltiad uniongyrchol â Swyddog sydd o fewn cyrraedd eich cartref. Mae Swyddogion cyflogedig UCAC bob amser yn fodlon eich cyfarfod ar amser ac mewn lleoliad sydd yn gyfleus i chi. Yn ogystal, mae'r Swyddogion ar gael i fynychu unrhyw gyfarfod undebol — yn y gweithle neu o fewn y sir.
yn meddu ar yr adnoddau i'ch gwasanaethu a'ch diogelu
Mae aelodaeth UCAC wedi cynyddu'n gyson dros y blynyddoedd — ac yn parhau i wneud hynny. Bellach mae asedau UCAC werth rhyw £¼ miliwn.
wedi sefydlu rhwydwaith genedlaethol o gyfreithwyr
O'r herwydd, darperir cefnogaeth gyfreithiol gynhwysfawr i bob aelod sydd angen hynny a sicrheir gwasanaeth cyflym ac effeithiol i aelodau UCAC ym mhob cwr o'r wlad.
â'i Brif Swyddfa yng Nghymru
Caiff pob agwedd ar waith yr Undeb ei wneud yng Nghymru, ac yn y Brif Swyddfa yn Aberystwyth y lleolir holl staff cyflogedig yr Undeb. UCAC yw'r unig undeb athrawon sy'n gallu dweud hyn.
yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg
Cynhelir pob cyfarfod mewnol a chyhoeddus yr Undeb trwy gyfrwng y Gymraeg. Croesewir y di-Gymraeg i'n Cynadleddau a darperir offer cyfieithu ar eu cyfer. Mae UCAC wedi sefydlu Cynllun Pontio fel modd i roi cymorth i'r rheiny sydd yn dysgu Cymraeg ac sydd am ddod yn fwy rhugl yn yr iaith.
yn cydweithio'n llwyddiannus ag aelodau'r Cynulliad
Mae UCAC wedi meithrin cysylltiadau da ag aelodau'r Cynulliad. Bwriadwn ymgyrchu yn awr i sicrhau mwy o rym a phwer i'r Cynulliad.
yn credu mewn cyfundrefn addysg annibynnol i Gymru
UCAC yw'r unig undeb sydd, ers ei sefydlu, wedi galw am Gyfundrefn Addysg Annibynnol i Gymru. Bwriad UCAC yw sicrhau bod y Cynulliad yn sefydlu trefn addysg a fydd yn Gymreig ac yn deg i athrawon Cymru.
yn siarad ar ran athrawon Cymru yn Llundain
UCAC yw'r unig undeb sy'n edrych ar y byd addysg trwy lygaid Cymreig ac yn ffurfio ei bolisïau canolog er budd Cymru. UCAC yw'r unig undeb sydd yn tynnu sylw'r Adran Addysg a Sgiliau (DfES) a'r Corff Adolygu Cyflogau Athrawon (STRB) at y gwahaniaethau sy'n bodoli yng Nghymru ac at anghenion penodol athrawon Cymru.
yn gweithio'n ddiflino dros y Gymraeg yn yr ysgolion, y colegau ac yng ngweinyddiaeth addysg
Mae aelodau a swyddogion UCAC yn ymhyfrydu yn nhwf addysg Gymraeg ac yn falch o'r rhan bwysig y mae'r Undeb wedi ei chwarae yn y maes hwn. Rydym yn parhau i weithio i sicrhau statws a pharch i'r Gymraeg o fewn y byd addysg yng Nghymru.