CymraegEnglish
Ffurflen Ymaelodi
Cysylltwch â ni
Ymholiad arlein
Cwestiynau

TÂL AELODAETH

Mae tâl aelodaeth UCAC, sydd yn gyfredol o Ionawr i Ragfyr, yn cymharu'n ffafriol iawn â thâl aelodaeth yr undebau eraill. Gellir talu'r tâl aelodaeth drwy siec (y tâl i gyrraedd cyn diwedd Mehefin) neu drwy ddebyd uniongyrchol.

Mae'r tâl aelodaeth yn cynnwys:

  • cyngor a chymorth di-dâl ar faterion sy’n berthnasol i’ch gwaith;
  • chwe chopi o gylchgrawn Yr Athro; 
  • copi o Flwyddlyfr UCAC;
  • blwydd-ddalen UCAC;
  • hawl i wasanaethau UCAC - y Cynllun Digolledu, y Gymhorthfa a chyngor ariannol

TELERAU AELODAETH 2010

£ 

Yn gweithio'n llawn amser 
â blwyddyn neu fwy o wasanaeth

£12.50 y mis 
(£150.00)

Yn gweithio'n rhan amser 
(dros hanner amser)

 £8.25 y mis 
(£99.00)

Yn gweithio'n rhan amser 
(hanner amser neu lai)

£6.75
(£81.00)

Y flwyddyn galendr gyntaf 
neu hyfforddi yn  y gweithle

£1.00 y mis
(£12.00)

Athrawon Dan Hyfforddiant ac Athrawon Newydd Gymhwyso
Nid oes tâl i athrawon dan hyfforddiant yn ystod eu cyfnod yn y coleg, nac i athrawon/darlithwyr sydd ar eu tymor cyntaf o addysgu wedi gadael y coleg.

Absenoldeb Mamolaeth
Mae gostyngiad yn y tâl aelodaeth i athrawesau sydd ar gyfnod o absenoldeb mamolaeth. Caiff unrhyw athrawes sydd yn talu ei thâl aelodaeth yn fisol o'r banc, haneru ei thaliadau misol yn ystod ei chyfnod o absenoldeb mamolaeth — beth bynnag yw hyd yr absenoldeb hwnnw. Cofiwch hysbysu'r Brif Swyddfa os ydych ar fin cymryd absenoldeb mamolaeth felly.

Newyddion
8 Medi 2010
Twf Addysg Gymraeg yn y De Ddwyrain?
Cyfarfod Cyhoeddus UCAC yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010
4 Awst 2010
DATGANIAD I’R WASG - Lansio Gwefan Swyddi Byd Addysg
4 Awst 2010
Digwyddiadau UCAC yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd
CYFARFOD CYHOEDDUS
Chwilo'r safle

Cliciwch ar y gair Ewch isod, neu teipiwch air perthnasol yn y blwch i fynd i wefan Teacher Support Cymru i gael gwybodaeth a chefnogaeth ar faterion personol neu ynghylch gwaith. Gallwch gysylltu â nhw ar y rhif cymorth 0800 085 5088.