|
Ffurflen Ymaelodi
|
|
|
|
|
|
Cysylltwch â ni
|
|
|
|
| Cwestiynau | |  | | |
|
|
|
| GWASANAETHAU I AELODAU |
|
|
Arbedwch hyd at £349 y flwyddyn drwy gymharu a newid cyflenwyr
Mae ardal ynni gwefan UCAC yn wasanaeth rhad ac am ddim, diduedd, sydd yn monitro pob cytundeb nwy a thrydan sydd ar gael. Yn ogystal â lleihau cost eich ynni, gallwch hefyd leihau’r drwgeffaith ar yr amgylchedd. Mae pob cymhariaeth yn dangos effaith CO² pob opsiwn, gan alluogi aelodau UCAC i wneud penderfyniad cydwybodol ynglyn â lleihau eich ôl troed carbon. Bob tro y bydd aelod yn trosglwyddo at gwmni ynni newydd, bydd hynny’n creu incwm i UCAC. Cliciwch yma er mwyn dechrau arbed arian.
www.energylinx.co.uk/energy/athrawonw/index.html
|
|
|
Cynllun Digolledu UCAC
Cynllun yw hwn sy'n digolledu aelod hyd at uchafswm o £250 mewn blwyddyn galendr am ddifrod bwriadol i gar neu eiddo personol ar safle'r ysgol neu'r coleg yn ystod oriau gwaith arferol. Cysyllter â'r Brif Swyddfa am ffurflen gais a rhestr lawn o'r amodau.
Cymhorthfa UCAC
Mae Cymhorthfa UCAC yn estyn cymorth ariannol i aelodau sydd angen hynny oherwydd salwch neu ddamwain, ac felly yn ddigyflog neu'n derbyn cyflog bychan. Mae natur y cymorth yn cael ei benderfynu gan dri swyddog annibynnol. Diogelir cyfrinachedd yr aelod yn ystod y broses hon. Cysyllter â'r Brif Swyddfa os am dderbyn cymorth neu ragor o wybodaeth.
|
|
|
Cyngor Ariannol
Mae UCAC wedi meithrin cysylltiadau cydweithredol â chwmni Gofalaeth Asedau Sterling. Mae'r cwmni yn aelod o The M&E Network Ltd, Greatminster House, Lister Hill, Horsforth, Leeds LS18 5DL (ffôn: 0113-259-1717) a reolir gan yr Awdurdod Buddsoddiadau Personol (Personal Investment Authority). Dylai aelodau UCAC sydd am gyngor ar yswiriannau a buddsoddiadau, gysylltu â: Chwmni Sterling, 13 Porth Bach, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2AR i weld beth yw’r posibiliadau (01970-617622) neu e-bostiwch: financial@sterling-a-m.com |
|
|
|
|
|
|
|
|