CymraegEnglish
Ffurflen Ymaelodi
Cysylltwch â ni
Ymholiad arlein
Cwestiynau
Chwilo'r safle
Gwasanaethau i Aelodau


Cynllun Digolledu UCAC

Cynllun yw hwn sy'n digolledu aelod hyd at uchafswm o £250 mewn blwyddyn galendr am ddifrod bwriadol i gar neu eiddo personol ar safle'r ysgol neu'r coleg yn ystod oriau gwaith arferol. Cysyllter â'r Brif Swyddfa am ffurflen gais a rhestr lawn o'r amodau.

Cymhorthfa UCAC 
Mae Cymhorthfa UCAC yn estyn cymorth ariannol i aelodau sydd angen hynny oherwydd salwch neu ddamwain, ac felly yn ddigyflog neu'n derbyn cyflog bychan. Mae natur y cymorth yn cael ei benderfynu gan dri swyddog annibynnol. Diogelir cyfrinachedd yr aelod yn ystod y broses hon. Cysyllter â'r Brif Swyddfa os am dderbyn cymorth neu ragor o wybodaeth.


Cyngor Ariannol

Mae UCAC wedi meithrin cysylltiadau gyda chwmni Gofalaeth Asedau Sterling. Cewch gyngor ar yswiriant bywyd, pensiynau a buddsoddiadau – cofiwch sôn eich bod yn aelod o UCAC. 

Cysylltwch â chwmni Sterling, Tŷ Sterling, 13 Porth Bach, Aberystwyth SY23 2AR, 01970 617622, financial@sterling-a-m.com

Mae'r cwmni’n aelod o The M&E Network Ltd (Greatminster House, Lister Hill, Horsforth, Leeds  LS18 5DL) a reoleiddir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (Financial Services Authority, FSA).

Arbedwch hyd at £349 y flwyddyn drwy gymharu a newid cyflenwyr 

Mae gwefan ynni UCAC yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim, diduedd, sy’n monitro pob cytundeb nwy a thrydan sydd ar gael.

Mae pob cymhariaeth yn dangos effaith CO² pob opsiwn, gan alluogi aelodau UCAC i wneud penderfyniad cydwybodol ynglyn â lleihau eich ôl-troed carbon – ac arbed arian ar yr un pryd.

Bob tro y bydd aelod yn trosglwyddo at gwmni ynni newydd, bydd hynny’n creu incwm i UCAC.
Cliciwch yma er mwyn dechrau arbed arian: www.energylinx.co.uk/energy/athrawonw/index.html

Follow AthrawonCymru on Twitter
Newyddion
26 Ebrill 2013
UCAC yn ystyried streicio dros chwalu system tâl athrawon
25 Ebrill 2013
Cyflogau Athrawon
25 Ebrill 2013
Gwrthwynebiad chwyrn i dâl lleol

Cliciwch ar y gair Ewch isod, neu teipiwch air perthnasol yn y blwch i fynd i wefan Teacher Support Cymru i gael gwybodaeth a chefnogaeth ar faterion personol neu ynghylch gwaith. Gallwch gysylltu â nhw ar y rhif cymorth 0800 085 5088.