|
Ffurflen Ymaelodi
|
|
|
|
|
|
Cysylltwch â ni
|
|
|
|
| Cwestiynau | |  | | |
|
|
|
CÔD YMDDYGIAD UCAC
Aelodaeth o'r Undeb
- Dylai pob aelod gydymffurfio ag amcanion yr Undeb.
- Dylai pob aelod weithredu yn unol â Rheolau'r Undeb ar bob achlysur.
- Disgwylir i bob aelod a ymgymero â swydd o fewn yr Undeb gyflawni'r swydd honno yn brydlon, yn drefnus ac yn effeithiol.
- Disgwylir i bob aelod sy'n cynnal swydd o fewn yr Undeb – yn lleol, sirol ac yn genedlaethol – fynychu'r holl gyfarfodydd a fo'n ymwneud â'i swydd.
- Gall y Cyngor Cenedlaethol symud o'i swydd unrhyw swyddog a geir yn euog o dwyll, esgeulusdod neu unrhyw gamwedd arall ar faterion yn ymwneud â'i waith fel swyddog o'r Undeb.
Yr Aelod yn ei Waith Beunyddiol
- Ni ddylai aelod gollfarnu cydweithiwr yng ngwydd cydweithwyr eraill, nac wrth blant, myfyrwyr na rhieni.
- Dylai aelod sy'n derbyn cwyn yn ei erbyn gan riant gyfeirio'r gwyn honno at ei bennaeth. Ni ddylai'r pennaeth ddelio â'r gwyn heb yn gyntaf ymgynghori â'r aelod.
- Ni ddylai aelod ymddwyn yn amrhiodol tuag at unrhyw ddisgybl/myfyriwr, na dangos ffafriaeth neu anffafriaeth tuag at ddisgybl/myfyriwr unigol.
- Dylai aelod wrthod cais ei bennaeth neu gydweithiwr arall mewn swydd o gyfrifoldeb i sbïo'n ddirgel a dwyn adroddiad ar waith a pherfformiad un o'i gydweithwyr.
- Lle bo aelod am ddwyn adroddiad anffafriol am gydweithiwr i sylw'r pennaeth, dylai yn gyntaf drafod ei adroddiad gyda'r cydweithiwr hwnnw.
- Lle bo achos o anghydfod undebol rhwng dau neu ragor o aelodau'r Undeb, gall un neu ragor o'r aelodau ddwyn yr anghyfod i sylw'r Cyngor Cenedlaethol. A bod penderfyniad y Cyngor yn annerbyniol iddo neu iddynt bydd hawl ganddo/ganddynt i apelio yn unol â darpariaeth Rheol 6 o Reolau'r Undeb (gweler Cyfansoddiad UCAC).
- Lle bo anghydfod rhwng aelodau o UCAC, dylent ymgynghori â'r Undeb cyn danfon adroddiad anffafriol at y cyflogwr.
- Lle bo pennaeth am gyflwyno adroddiad anffafriol am aelod o'i staff i'w gyflogwr, dylai'r pennaeth hysbysu'r aelod o'i fwriad cyn gwneud hynny a rhoi iddo gopi o'r adroddiad.
Gweithredu Diwydiannol
- Disgwylir i bob aelod gydymffurfio â chyfarwyddiadau'r Undeb ar adeg o weithredu diwydiannol.
- Diswyddir o'i swydd undebol unrhyw swyddog lleol, sirol neu genedlaethol na weithreda yn unol â chyfarwyddyd yr Undeb.
Cysylltiadau â'r Wasg a'r Cyfryngau
- Mae'n ddyletswydd ar y Cyngor Cenedlaethol i danlinellu mai o fewn cyfundrefn ddemocrataidd UCAC, ac nid yn y wasg nac ar y cyfryngau, y mae mynegi safbwyntiau sydd yn groes i'r polisïau swyddogol y cytunwyd arnynt trwy fwyafrif. Mae hyn yn arbennig o wir yn ystod cyfnod o weithredu diwydiannol pryd y gall datganiadau byrbwyll a dadleuol wneud drwg i'r Undeb. Nid ar ôl i'r Undeb benderfynu ar strategaeth mewn cyfarfodydd cymdeithasau sir a chynadleddau y mae datgan yn erbyn. Cyfrifoldeb pob aelod unigol drwy fynychu cyfarfodydd a chynadleddau yw sicrhau bod UCAC yn parhau i leisio barn trwch yr aelodau.
|
|
|
|
|
|
|
|
|