Hanes UCAC
Sefydlwyd UCAC yng Nghaerdydd yn 1940 gan grwp o athrawon a welai’r angen am undeb athrawon gydag amcanion, polisïau a gwasanaethau a fyddai’n cyfateb i anghenion penodol athrawon a oedd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.
Un o’r athrawon hynny oedd Gwyn M. Daniel, Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf UCAC, a dyma sydd wedi’i gofnodi yn y Llyfr Cofnodion ar ôl cyfarfod sefydlu UCAC ar 14 Rhagfyr 1940 yn Nhy’r Cymry, Heol Gordon, Caerdydd:
Daeth nifer da o athrawon o bob gradd o’r Ysgolion Elfennol i’r Brifysgol ynghyd yn Nhy’r Cymry, Heol Gordon, Caerdydd, am 1.30 o’r gloch ddydd Sadwrn, Rhagfyr 14eg 1940 i sefydlu’r Undeb.
Gofynnwyd i Mr Gwyn M. Daniel, un o hyrwyddwyr y mudiad o’r cychwyn i lywyddu’r cyfarfod. Darllenodd lythyrau oddi wrth Mr Ifan ab Owen Edwards a Mr Saunders Lewis yn datgan eu gofid na allent fod yn bresennol ond yn dymuno pob llwyddiant i’r Undeb. Yr un oedd neges Miss Ellen Evans, Prifathrawes Coleg Hyfforddi’r Merched, Y Barri, drwy Miss Amy Thomas.
Yr oedd y cyfarfod hwn yn dilyn dros flwyddyn o ymgyrchu a chyfathrebu. Yn wir, yr oedd nifer o gopïau o daflen wedi ei dosbarthu yn enw UCAC i gefnogwyr tebygol ymhell cyn hynny a oedd yn datgan y byddai Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru yn cael ei sefydlu yn Ionawr 1940. Arwyddwyd y daflen hon gan Evan J. Jones, Griffith J. Williams, Gwyn M. Daniel a Victor H. Jones, ond teg fyddai ychwanegu enwau Cassie J. Davies, Enid Pierce Jones, Isaac (Eic) Davies, D.J. Williams a Gwyneth M. Davies at enwau’r pedwar yma fel sylfaenwyr UCAC.
Cafwyd ymateb da i’r daflen hon yn ystod 1940 ac fe wahoddwyd 105 i’r Cyfarfod Sefydlu. Er nad oes cofnod o sawl un a ddaeth i’r cyfarfod, yr oedd cefnogaeth bendant i UCAC fel mudiad.
Yr oedd mudiad o’r enw Undeb Athrawon Cymreig yn bodoli ar y pryd, ac yr oedd sylfaenwyr UCAC yn awyddus i beidio ag amharu ar waith UCAC. Hwn oedd y mudiad oedd yn cyhoeddi Yr Athro yn wreiddiol.
Anodd yw crynhoi holl hanes yr Undeb yma. Fel y dywed Rhodri Llwyd Morgan yn ei erthygl Sefydlu Archif UCAC 1940-c.1980 (Amser Egwyl, Rhifyn 1, Rhagfyr 2000): “Adeg ei sefydlu, roedd UCAC yn fudiad arloesol. UCAC oedd yr undeb llafur proffesiynol cyntaf i’w sefydlu yng Nghymru a hynny gan Gymry a thros Gymru. Cynrychiolai gorff a fynnai ganolbwyntio meddyliau ar anghenion addysgol a diwylliannol Cymru.”
Dros y blynyddoedd ers ei sefydlu, y mae UCAC wedi chwarae rhan bwysig mewn llawer maes, gan gynnwys hanes addysg yng Nghymru, undebaeth lafur yng Nghymru, a hanes cymdeithasol ac ieithyddol Cymru er 1940.
Mae llawer o’r dogfennau sydd yn ymwneud â hanes UCAC i’w gweld yng nghasgliad Archif UCAC 1940-c.1980 yn Llyfrgell Prifysgol Caerdydd. Mae’r Archif yn cynnwys yr holl bapurau a berthyn i’r Undeb ac a gedwid yn Nhy'r Cymry tra bu’n Brif Swyddfa i’r Undeb. Mae hyn yn golygu casgliad o bapurau’r Undeb rhwng ei sefydlu yn 1940 a symud y Brif Swyddfa i Aberystwyth yn 1983. Ceir rhai dogfennau hefyd sy’n perthyn i gyfnod diweddarach, a’r bwriad yw ychwanegu’n rheolaidd at yr Archif o’r defnyddiau sydd yn crynhoi yn y swyddfa yn Aberystwyth.
Gwelwyd yr Undeb yn tyfu ac yn datblygu ym mhob agwedd ers hynny. Erbyn heddiw, mae penaethiaid a darlithwyr hefyd yn aelodau o UCAC ac mae gan yr Undeb adrannau penodol ar eu cyfer. Heb os, mae UCAC yn undeb llewyrchus sy’n gallu sefyll yn gadarn ochr yn ochr ag unrhyw undeb arall.