Y Gynhadledd Flynyddol
Hwn yw'r prif gorff ar gyfer llunio polisiau'r Undeb gan ddarparu cyfle i aelodau wyntyllu eu syniadau a chytuno ar farn swyddogol yr Undeb.
Cyflwynir cynigion i sylw Cynhadledd Flynyddol yr Undeb, a gynhelir ym mis Mawrth/Ebrill/Mai. Yn y Gynhadledd Flynyddol caiff y cynigion eu trafod a'u troi'n benderfyniadau (neu beidio), ac ar y penderfyniadau hyn y bydd UCAC yn gweithredu dros y cyfnod sy'n dilyn.
Anfonir cynrychiolwyr o Gymdeithasau Sir ac Adrannau UCAC i'r Gynhadledd Flynyddol, ynghyd ag aelodau'r Cyngor Cenedlaethol. Dim ond i gynrychiolwyr swyddogol y caniateir pleidlais, ond mae gan bob aelod o'r Undeb yr hawl i fynychu'r Gynhadledd a mynegi barn.
Cynhelir y Gynhadledd Genedlaethol yn Aberystwyth unwaith bob tair blynedd ac yn y gogledd a'r de bob yn ail yn y ddwy flyneddd arall. Mae'n gyfle gwych i gymdeithasu a dod i adnabod eich cyd-undebwyr ac i drin a thrafod yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Edrychwn ymlaen i'ch gweld yno!