PWYLLGOR CYLLID A DATBLYGU
Aelodaeth y Pwyllgor Cyllid a Datblygu yw: y Llywydd Cenedlaethol, yr Is-lywydd, y Cyn-lywydd, yr Ysgrifennydd Cyffredinol a thri aelod arall o’r Cyngor. Mae o leiaf un o Ymddiriedolwyr yr Undeb yn mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor, ac estynnir gwahoddiad i’r Trysorydd, yr Is-ysgrifennydd a Swyddog Maes y Gogledd i bob cyfarfod.
Mae'r Pwyllgor yn ymwneud â materion ariannol a chyfansoddiadol, gan gynnwys cyflogaeth ac amodau gwaith gweithwyr UCAC a gweinyddiaeth y Brif Swyddfa.