PWYLLGOR RHEOLAU SEFYDLOG
Aelodaeth y Pwyllgor Rheolau Sefydlog (a elwir hefyd yn Bwyllgor y Gynhadledd) yw: y Llywydd, yr Is-lywydd, Ysgrifennydd yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol a Chyflogaeth, yr Ysgrifennydd Cyffredinol a chwe aelod cyfetholedig.
Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod ar ôl y Cynadleddau Sirol i drafod y cynigion a gyflwynwyd gerbron, agenda'r Gynhadledd Flynyddol ac i argymell i'r Cyngor sut y gellir gweinyddu busnes y Gynhadledd.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn cyfarfod cyn agor y Gynhadledd neu yn ystod y Gynhadledd i ystyried unrhyw gynigion brys a gyflwynir iddo. Aelodau’r Pwyllgor sydd yn gyfrifol am gadw amser a chyfrif pleidleisiau yn ystod y Gynhadledd.