CymraegEnglish
Ffurflen Ymaelodi
Cysylltwch â ni
Ymholiad arlein
Cwestiynau

HAWLIO AD-DALIAD TRETH INCWM

Mae hawl gan athro roi Tâl Aelodaeth ei Undeb yn erbyn ei dreth incwm a chael ad-daliad. Er enghraifft, ar gyfer 2010 gallai athro llawn amser hawlio 20% neu 40% o £150 yn ôl.

Onid ydych wedi bod yn hawlio’r ad-daliad hwn yn flynyddol, mae modd i chi hawlio yn ôl am hyd at chwe blynedd a’r flwyddyn gyfredol.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ysgrifennu at eich Swyddfa Cyllid a Thollau lleol (mae llythyr enghreifftiol isod) yn nodi faint o Dâl Aelodaeth a dalwyd gennych dros y blynyddoedd hyn. Cofiwch nodi eich rhif Yswiriant Cenedlaethol ar y llythyr, a chyfeirnod treth eich cyflogwr (dylai hwn fod ar eich slip cyflog).

Mae’r tabl isod yn nodi’r Tâl Aelodaeth ar gyfer y gwahanol gategorïau o aelodaeth ers 2004.

Blwyddyn
Tâl  Aelodaeth Llawn   
Dros  Hanner Amser  
Llai na Hanner Amser
Blwyddyn lawn gyntaf o addysgu wedi gadael coleg
2004
£117
£78
£60 
£39
2005
£120
£81
£63
£39
2006
£132
£90
£72
dim
2007
£132
£90
£72
dim
2008
£138
£93
£75
dim
2009
£144
£96
£78
£12
2010
£150
£99
£81
£12

         
Os byddwch yn cael unrhyw broblem o gwbl wrth hawlio’r ad-daliad hwn, cysylltwch â’r Brif Swyddfa yn syth  a bydd UCAC yn ysgrifennu llythyr ar eich rhan i chi i'w gyflwyno i Swyddfa Cyllid a Thollau.


LLYTHYR ENGHREIFFTIOL I SWYDDFA CYLLID A THOLLAU

12 Y Stryd Fawr
Abernunlle
UC22 5AC

Dyddiad / Date

At Swyddfa Cyllid a Thollau EM / To the HM Revenue & Customs Office

Rhif Yswiriant Cenedlaethol / National Insurance Number: AB123456
Cyfeirnod Treth Incwm / Tax Reference: 12345

Blwyddyn
Tâl  Aelodaeth Llawn   
Dros  Hanner Amser  
Llai na Hanner Amser
Blwyddyn lawn gyntaf o addysgu wedi gadael coleg
2004
£117
£78
£60 
£39
2005
£120
£81
£63
£39
2006
£132
£90
£72
dim
2007
£132
£90
£72
dim
2008
£138
£93
£75
dim
2009
£144
£96
£78
£12
2010
£150
£99
£81
£12


Ysgrifennaf i’ch hysbysu fy mod  yn aelod o UCAC ers y flwyddyn 2004 (Rhif  Aelodaeth 56789). Nodir yma y taliadau yr wyf wedi eu gwneud  ers hynny:      

 2004      £117
 2005      £120
 2006      £132
 2007      £132
 2008      £138
 2009      £144
 2010      £150

Hoffwn hawlio’r rhyddhad treth incwm sydd yn ddyledus i mi yn unol â’r ICTA 1988 S(201)(1)(b).

Yn ddiffuant

Ms Ann Hysbys

 


I write to inform you that I have been a member of UCAC since 2004 (Membership No: 56789). The subscription fees I have paid since then are noted below:
 
 2004      £117
 2005      £120
 2006      £132
 2007      £132
 2008      £138
 2009      £144
 2010      £150

I would like to claim the income tax relief that is due to me under the ICTA 1988 S(201)(1)(b). 

Yours faithfully

Ms Ann Hysbys

 

Newyddion
8 Medi 2010
Twf Addysg Gymraeg yn y De Ddwyrain?
Cyfarfod Cyhoeddus UCAC yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010
4 Awst 2010
DATGANIAD I’R WASG - Lansio Gwefan Swyddi Byd Addysg
4 Awst 2010
Digwyddiadau UCAC yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd
CYFARFOD CYHOEDDUS
Chwilo'r safle

Cliciwch ar y gair Ewch isod, neu teipiwch air perthnasol yn y blwch i fynd i wefan Teacher Support Cymru i gael gwybodaeth a chefnogaeth ar faterion personol neu ynghylch gwaith. Gallwch gysylltu â nhw ar y rhif cymorth 0800 085 5088.