YMGYRCHOEDD
Rhondda Cynon Taf: Bygythiad difrifol i addysg cyfrwng Cymraeg
Mae Rhondda Cynon Taf, fel pob awdurdod lleol yng Nghymru, wrthi’n ad-drefnu addysg ôl-16, yn ôl gofynion y Mesur Dysgu a Sgiliau a’r ‘Agenda Trawsnewid’.
Denodd cynlluniau Rhondda Cynon Taf gryn dipyn o sylw yn y cyfryngau yn sgil y ffordd y maen nhw’n ymdrin ag addysg cyfrwng Cymraeg – neu’n hytrach, y diffyg sylw sydd wedi’i dalu i’r sector. Mae’n fwriad gan y Cyngor gau pob chweched ddosbarth ar draws yr awdurdod – gan gynnwys y rheiny yn y pedair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg - a sefydlu darpariaeth drydyddol ‘ddwyieithog’ ar dri safle yn eu lle.
Yn naturiol, mae gan UCAC bryderon difrifol am y datblygiadau hyn, ac rydym wedi dechrau ymgyrch gref yn eu herbyn.
Gofynnwn nawr am eich help chi, aelodau UCAC, yn yr ymgyrch i ddiogelu addysg cyfrwng Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf, drwy:
1. Ysgrifennu llythyr neu e-bost at y canlynol i fynegi'ch pryderon a'ch gwrthwynebiad:
• Leighton Andrews, Gweinidog Addysg, Plant a Dysgu Gydol Oes, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CAERDYDD CF99 1NA; gohebiaeth.leighton.andrews@cymru.gsi.gov.uk
• David Hawker, Cyfarwyddwr Adran Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, CAERDYDD CF10 3NQ; david.hawker@cymru.gov.uk
• Mike Keating, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes Rhondda Cynon Taf, Y Ganolfan Addysg, Ty Trevithick, Abercynon, ABERPENNAR CF45 4UQ; mike.keating@rhondda-cynon-taff.gov.uk
2. Os ydych chi’n byw yn rhanbarth ‘Canol De Cymru’, mae’n werth i chi ysgrifennu yn ogystal at eich Aelodau Cynulliad rhanbarthol:
- Andrew R.T. Davies (Ceidwadwyr): andrewrt.davies@cymru.gov.uk
- Chris Franks (Plaid Cymru): christopher.franks@cymru.gov.uk
- David Melding (Ceidwadwyr): david.melding@cymru.gsi.gov.uk
- Leanne Wood (Plaid Cymru): leanne.wood@cymru.gov.uk
Mi allech grybwyll rhai o’r pwyntiau canlynol:
• Nid yw darparu ‘cyrsiau cyfrwng Cymraeg’ mewn sefydliad ‘dwyieithog’ yn gyfystyr â chynnig addysg cyfrwng Cymraeg; ni fydd darpariaeth o’r fath yn creu unigolion gwirioneddol dwyieithog; rhaid cael yr ‘ethos’ Cymraeg i wneud hynny – ffaith a gydnabyddir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg
• Bydd datblygiad o’r fath yn niweidiol i rannau eraill o’r cyfundrefn addysg:
- Addysg 11-16: gallai llai o rieni dewis anfon eu plant i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gan wybod na fyddai parhad i’r ddarpariaeth ôl-16
- Addysg Uwch: byddai’n niweidiol dros ben i’r cynllun i greu Coleg Ffederal, oherwydd y byddai’n torri ar ddilyniant ieithyddol addysg disgyblion ôl-16, ac yn ei gwneud yn annhebygol y byddent yn dewis llwybr cyfrwng Cymraeg mewn addysg uwch
• Nid yw cynllun o’r fath yn cyd-fynd â gofynion y Mesur Dysgu a Sgiliau, na’r Agenda Trawsnewid sy’n gofyn bod cynlluniau’n dangos “Yr effaith gadarnhaol a gaiff y cynnig o ran yr amrywiaeth o gyfleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i ddysgwyr ac ansawdd y cyfleoedd hynny.”
Os hoffech unrhyw wybodaeth neu gyngor pellach, mae croeso mawr i chi gysylltu: elaine@athrawon.com neu rebecca@athrawon.com