CymraegEnglish
Ffurflen Ymaelodi
Cysylltwch â ni
Ymholiad arlein
Cwestiynau
Chwilo'r safle


19 Mawrth 2012

Ni fydd UCAC yn galw ar aelodau i fynd ar streic ddiwedd mis Mawrth.

Serch hynny, mae’r ymgyrch yn parhau a byddwn yn cydweithio gydag undebau eraill i ddwyn perswâd ar y Llywodraeth.

Pwyswn arnoch i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol tros Addysg, Michael Gove. Gallwch addasu’r llythyr sy’n dilyn a’i anfon hefyd at eich Aelod Seneddol, gan fynegi pryder os nad ydyw wedi dangos parodrwydd i amddiffyn pensiynau. Cofiwch ein hysbysu os byddwch yn derbyn ymateb.

Beth am ofyn i’ch cynrychiolydd UCAC drefnu cyfarfod undeb yn yr ysgol neu goleg er mwyn ysbrydoli pawb i ysgrifennu llythyron ar yr un pryd?

Cyfeiriad Michael Gove: Secretary of State for Education, Department for Education, Sanctuary Buildings, Great Smith St, Westminster, London SW1P 3BT; ministers@education.gsi.gov.uk

Ewch i http://www.parliament.uk/mps-lords-and-offices/mps/ am fanylion am eich Aelod Seneddol.

Llythyr enghreifftiol

Dear Secretary of State for Education,

The Westminster Government’s proposed changes to the Teachers’ Pension Scheme will be very damaging. Teachers and lecturers will see enormous changes in how their pension is calculated and in the value of their pension in retirement.

I know that I will be expected to pay a lot more and work longer to get less in retirement - which is clearly unfair.

I believe that the Government is introducing too many changes. I feel particularly concerned about the effect on my monthly disposable income with contributions due to increase three years in succession. The decision to increase the normal pension age in line with the state pension age shows a complete lack of understanding of the nature of our work and the demands upon us; it is clear that the Government has not given due consideration to the possible consequences of increasing the normal pension age, not only for individuals, but also for the profession and educational standards.

I urge you to reconsider these decisions which have already had such a damaging effect on the morale of the profession and will undoubtedly affect recruitment into the profession and professional development and career prospects for the future.

I do not wish to take further industrial action – but I am prepared to do so if the Government does not start to listen and reconsider its damaging stance on the Teachers’ Pension Scheme.

Yours faithfully,


Eich Pensiwn Dan Fygythiad


Mae bygythiad difrifol i bensiynau athrawon a darlithwyr.

Mae cynigion gerbron yn gofyn i aelodau dalu mwy, gweithio’n hirach – a hyd yn oed wedyn, derbyn llai o bensiwn.

Nid yw hyn yn dderbyniol.

Mae UCAC yn ymgyrchu’n ffyrnig i wrthwynebu’r newidiadau annheg, ac i sicrhau cynlluniau pensiwn teg a chynaliadwy ar gyfer aelodau presennol ac aelodau’r dyfodol.

Isod mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r ymgyrch i ddiogelu’r Cynllun Pensiwn Athrawon a’r Universities Superannuation Scheme (USS).

Gweithio’n hirach

                       = Llai o bensiwn

Cyfrannu mwy



Cynllun Pensiwn Athrawon

Beth yw'r broblem?

Dyma gynigion Llywodraeth San Steffan:

·        Codi’r cyfraniadau misol i’ch pensiwn
- codiad o dros 50% (o 6.4% i 9.8% o’ch cyflog) = toriad cyflog sylweddol

·        Codi’r Oed Pensiwn Arferol
- codi’r oedran pan allwch chi ymddeol ar bensiwn llawn i gyd-fynd â’r oedran pensiwn gwladol; bydd rhaid i athrawon sy’n 33 neu’n iau nawr weithio tan eu bod yn 68 cyn cael pensiwn llawn

·        Defnyddio CPI yn lle RPI i gyfrifo’r chwyddiant
- mae Llywodraeth San Steffan wedi cyflwyno’r newid hwn ers mis Ebrill 2011; mae’n golygu bod eich pensiwn yn cynyddu gyda chwyddiant ar raddfa is = mae’n werth llai

·        Dileu’r Cynllun Cyflog Terfynol
- newid i gynllun ‘enillion cyfartalog’ neu ‘CARE’ (Career Average Revalued Earnings Scheme) = cyfrifo’ch pensiwn ar sail cyfartaledd eich enillion ar hyd eich gyrfa, yn hytrach nag ar sail eich cyflog ar ddiwedd eich gyrfa

Bydd y rhain oll yn niweidiol dros ben i bensiynau athrawon a darlithwyr.

Rhagor o wybodaeth: Pryderon UCAC am gynigion y Llywodraeth [PDF]

Ymgyrch UCAC hyd yma

·        Streic UCAC 5 Hydref: Yn dilyn balot o aelodau’r undeb a ddangosodd 89% o blaid gweithredu diwydiannol, cynhaliwyd streic undydd gan UCAC ar ddydd Mercher 5 Hydref i wrthwynebu cynlluniau Llywodraeth San Steffan i dorri pensiynau.

·        Lobi Cyd-undebol San Steffan: Trefnwyd sesiwn gyd-lobïo yn Senedd San Steffan yn ystod hanner tymor (dydd Mercher 26 Hydref) gan UCAC, ASCL, ATL, NAHT, NASUWT, NUT a UCU. Roedd yn ddigwyddiad hynod lwyddiannus gyda dros ddwy fil o athrawon a darlithwyr yn teithio i Lundain i gwrdd â’u Haelodau Seneddol i esbonio wrthynt sut bydd y newidiadau i bensiynau yn effeithio arnyn nhw. Cyflwynwyd deisebau o ysgolion a cholegau unigol i’r ASau, a chyflwynwyd cyfanswm y deisebau gyda dros 150,000 o lofnodion i’r Gweinidog dros Ysgolion Nick Gibb.

·        Lluniau ar safle Facebook UCAC www.facebook.com/athrawoncymru

·        Manylion y dydd ar gael o www.pensiwnteg.org.uk/lobi2011

Beth sy’n digwydd nesaf?

·
        Streic 30 Tachwedd

Bydd UCAC yn cynnal ail streic undydd ar ddydd Mercher, 30 Tachwedd 2011, dan faner y TUC ar y cyd gyda nifer fawr iawn o undebau eraill os na fydd y Llywodraeth yn dod â chynnig derbyniol i’r bwrdd negodi cyn y dyddiad hwnnw.

Y sawl sy’n gymwys i bleidleisio yw: athrawon neu ddarlithwyr sy’n aelodau o’r Cynllun Pensiwn Athrawon neu sydd â’r hawl i berthyn i’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac sydd â chytundeb gyda chyflogwr sydd â’r hawl cyfreithiol i gymryd rhan yn streic UCAC dros y Cynllun Pensiwn Athrawon (sef Awdurdodau Lleol, ysgolion, sefydliadau Addysg Bellach a sefydliadau Addysg Uwch ôl-92). 

Os ydych yn ansicr ynglŷn â’ch sefyllfa chi o ran y streic, darllenwch y daflen hon [PDF], neu cysylltwch â ni. 

1)      Dyma daflen cyngor yn benodol ar gyfer Arweinwyr Ysgol (PDF)

Gwybodaeth bellach am y newidiadau i'r Cynllun Pensiwn Athrawon 

·        Pryderon UCAC am gynigion y Llywodraeth [PDF]·

·        Eich Pensiwn: ar hyn o bryd [PDF]

·        Yr Adroddiad Hutton [PDF]

·        Trafodaethau rhwng Llywodraeth San Steffan a'r Undebau [PDF]

·        Poster Ymgyrch UCAC [PDF] 



Universities Superannuation Scheme (USS)

Mae Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (Universities Superannuation Scheme) yn gynllun pensiwn ar gyfer staff academaidd ac academaidd-perthynol mewn prifysgolion. Sefydlwyd y cynllun dros bedwar degawd yn ôl gan staff a phrifysgolion.

Beth yw’r broblem?

·        Oedran Ymddeol

   -      Codi’r Oedran Pensiwn Arferol i 65 yn y lle cyntaf

   -      Cysylltu’r Oedran Pensiwn Arferol â’r oedran pensiwn gwladol; h.y. codi i 68 oed ar gyfer darlithwyr sy’n 33 oed neu’n iau nawr

·        Cynllun Cyflog Terfynol → Cynllun Enillion Cyfartalog (CARE)

   -      Cyflwynir cynllun Enillion Cyfartalog Gyrfa wedi’u Hailbrisio (Career Average Revalued Earnings neu CARE) ar gyfer aelodau newydd o’r cynllun o 1 Hydref 2011 ymlaen

   -      Hynny yw, seilir pensiwn aelodau newydd ar gyfartaledd eu henillion dros eu gyrfa gyfan yn hytrach nag ar sail eu cyflog terfynol

   -     Ni fydd Cynllun Cyflog Terfynol ar gael i aelodau newydd o 1 Hydref 2011 ymlaen

·        Cyfraniadau

    -      Cynnydd o dros 18% yng nghyfraniadau’r aelodau sy’n rhan o’r Cynllun Cyflog Terfynol (sef aelodau cyfredol y cynllun), o 6.35% i 7.5% = toriad cyflog

    -      Cyfraniadau o 6.5% ar gyfer aelodau o’r Cynllun Enillion Cyfartalog (sef aelodau newydd y cynllun)

·        Chwyddiant

   -      Ar gyfer aelodau cyfredol y cynllun, bydd buddion a enillwyd ar gyfer gwasanaeth hyd at 1 Hydref 2011 yn cynyddu yn eu gwerth yn unol â chyfradd chwyddiant llawn y CPI

   -      Ar gyfer aelodau newydd ac aelodau cyfredol, bydd gwerth pensiynau ar gyfer gwasanaeth a enillwyd ar ôl 30 Medi 2011 yn cynyddu yn unol â chyfradd chwyddiant y CPI ond â nenfwd o 5% i gychwyn, ac wedyn graddfa symudol yn estyn hyd at 10%

·        Costau’r cynllun i’r dyfodol

   -      Cyflwynir dull o rannu costau rhwng y cyflogwr a’r aelodau os yw costau’r cynllun yn cynyddu yn y dyfodol

   -      Ar hyn o bryd cyfanswm cyfraniad y cyflogwr a’r aelod yw 23.5% (Cynllun Cyflog Terfynol) neu 22.5% (Cynllun Enillion Cyfartalog); bydd unrhyw gynnydd i’r cyfanswm hyn yn cael ei rannu 65%/35% rhwng y cyflogwr/aelodau

Rhagor o wybodaeth: Pryderon UCAC am y cynigion i newid yr USS [PDF]

Beth sydd wedi digwydd hyd yma?

Mae trafodaethau ynghylch newidiadau i’r Cynllun wedi bod yn digwydd ers mis Gorffennaf 2010. 

Ymatebodd UCAC [PDF] mewn manylder i’r ymgynghoriad ar y newidiadau ym mis Rhagfyr 2010. Yn sgil y trafodaethau, gwnaed rhai gwelliannau.  

Beth sy’n digwydd nesaf?

·        Streic 30 Tachwedd

Bydd UCAC yn cynnal streic undydd ar ddydd Mercher, 30 Tachwedd 2011, dan faner y TUC, ar y cyd gyda nifer fawr iawn o undebau eraill os na fydd y cyflogwyr yn dod â chynnig derbyniol i’r bwrdd negodi cyn y dyddiad hwnnw.

Y sawl sy’n gymwys i bleidleisio yw: staff prifysgolion cyn-92 sy'n aelodau o gynllun yr USS, neu sydd â'r hawl i fod yn aelod ohono. 

·        Gweithredu'n brin o streic

O 1 Rhagfyr ymlaen, bydd aelodau UCAC yn y prifysgolion cyn-92 yn gweithredu'n brin o streic, er mwyn ceisio dwyn perswâd ar y prifysgolion i liniaru ar eu cynigion i newid yr USS. Daw rhagor o wybodaeth ynglŷn â hyn yn fuan iawn.

Follow AthrawonCymru on Twitter
Newyddion
26 Ebrill 2013
UCAC yn ystyried streicio dros chwalu system tâl athrawon
25 Ebrill 2013
Cyflogau Athrawon
25 Ebrill 2013
Gwrthwynebiad chwyrn i dâl lleol

Cliciwch ar y gair Ewch isod, neu teipiwch air perthnasol yn y blwch i fynd i wefan Teacher Support Cymru i gael gwybodaeth a chefnogaeth ar faterion personol neu ynghylch gwaith. Gallwch gysylltu â nhw ar y rhif cymorth 0800 085 5088.