CymraegEnglish
Ffurflen Ymaelodi
Cysylltwch â ni
Ymholiad arlein
Cwestiynau
Chwilo'r safle
Asiantaethau Athrawon yng Nghymru

Y ffeithiau


·        Busnesau yw asiantaethau a’u pwrpas yw creu elw i’w perchnogion. 

·        Yn 2011 mae 37 o asiantaethau yn gweithredu yng Nghymru. 

·        Mae’r mwyafrif ohonynt wedi’u sefydlu yn wreiddiol yn Lloegr ac yna gweld cyfle i wneud elw pellach ar draul athrawon ac ysgolion Cymru.

·        Oherwydd bod cymaint ohonynt yn bodoli mewn gwlad sydd yn ddaearyddol fach, maent yn gorfod cystadlu’n frwd gyda’i gilydd, a’r unig ffordd o gystadlu yw gwerthu gwasanaeth athrawon yn rhatach na’r gystadleuaeth.

·        Yng Nghymru mae llawer o’r asiantaethau yn gweithredu yn y De Ddwyrain, y De Orllewin ac erbyn hyn maent yn lledu i’r Gogledd.

·        Nid yw athro sydd yn gweithio trwy asiantaeth yn derbyn yr un cyflog na’r un hawliau o ran amodau gwaith ag athrawon eraill. Yr asiantaeth, fel cyflogwr, sydd yn penderfynu ar y cyflog ac mae'r ysgol yn talu'r asiantaeth heb wybod beth yw cyflog yr athro. 

·        Nid oes gan athro sydd yn gweithio trwy asiantaeth hawliau, e.e. i 10% o amser CPA a’r hawliau eraill a nodir yn y Ddogfen Gyflog ac Amodau Gwaith Athrawon Ysgol (School Teachers’ Pay and Conditions Document).

·        Nid oes unrhyw gyfnod o weithio trwy asiantaeth yn cyfrif tuag at:

Ø  flynyddoedd o wasanaeth

Ø  bensiwn

·        I athro sydd yn gorfod gweithio trwy asiantaeth, y cyflog isel sydd yn achosi’r pryder mwyaf o ddydd i ddydd.  Nid yw’r mwyafrif o asiantaethau yn dangos yn agored ar eu gwefannau beth yw’r cyflog ar gyfer diwrnod o waith athro cyflenwi. Mae rhai:

Ø  yn bargeinio gydag ysgolion

Ø  yn cynnig athrawon yn rhatach na’r asiantaethau sydd mewn cystadleuaeth â hwy

·        Mae eraill yn nodi’r cyflog posib ar eu gwefan. Mae rhai yn well na’i gilydd, ond cofiwch does dim un yn talu beth mae athro’n haeddu. Nid yw’r cyflog yn agos i beth fyddai’r athro’n ei dderbyn petai’n gweithio’n uniongyrchol i’r ysgol neu Awdurdod Lleol.

·        Os oes cyhuddiad yn erbyn athro sydd yn gweithio trwy asiantaeth, nid oes gan yr asiantaeth fel cyflogwr gyfrifoldeb i ymchwilio. Gall yr asiantaeth ddileu enw athro oddi ar eu llyfrau, ac yn lle ymchwilio i’r honiad a rhoi cyfle i’r athro ei amddiffyn ei hun, cyfeirio’r mater yn uniongyrchol at Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Mae hyn yn achosi gofid mawr i’r athro ac yn wastraff o arian cyhoeddus

Beth yw’ch barn chi?

Ø  A fyddech chi’n hapus i weithio yn yr un swydd ag eraill, yr un mor galed ag eraill a derbyn tua hanner y cyflog?

Ø  Ydy hyn yn deg?

Mae asiantaethau athrawon yn:

Ø  tanseilio addysgu fel proffesiwn

Ø  amddifadu eu cyfrifoldeb fel cyflogwyr

Ø  creu tlodi ymhlith athrawon proffesiynol

 

Ymunwch ag ymgyrch UCAC i gadw asiantaethau allan o’ch ysgol chi.

Beth allwch chi ei wneud?

Defnyddiwch y llythyron yn yr adran ymgyrchu (fel ag y maent neu gallwch eu haddasu): 

·        llythyr at Weinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cymru (gyda chopi at lefarwyr addysg y pleidiau eraill (tan etholiad 2011: Nerys Evans, Plaid Cymru; Jenny Randerson, Democratiaid Rhyddfrydol; Paul Davies, Ceidwadwyr)

·        llythyr cyffredinol am sefyllfa athrawon cyflenwi i'w anfon at unrhyw un mewn awdurdod ym myd addysg neu at y wasg

·        llythyr oddi wrth gynrychiolydd UCAC yr ysgol at y pennaeth (bydd angen i aelodau UCAC yn yr ysgol gael trafodaeth a chyfle i arwyddo’r llythyr fel unigolion hefyd)

·        llythyr at Gadeiryddion y pedwar consortia addysg Awdurdod Lleol
(rhestr enwau a chyfeiriadau e-bost)

·        addaswch y llythyron yn ôl eich sefyllfa bersonol chi fel athro, e.e. efallai eich bod yn gweithio trwy asiantaeth

·        os ydych yn gweithio trwy asiantaeth cysylltwch ag UCAC i rannu eich profiadau; gallwn gadw’ch manylion yn gyfrinachol - cysylltwch ar elaine@athrawon.com neu ucac@athrawon.com






Follow AthrawonCymru on Twitter
Newyddion
26 Ebrill 2013
UCAC yn ystyried streicio dros chwalu system tâl athrawon
25 Ebrill 2013
Cyflogau Athrawon
25 Ebrill 2013
Gwrthwynebiad chwyrn i dâl lleol

Cliciwch ar y gair Ewch isod, neu teipiwch air perthnasol yn y blwch i fynd i wefan Teacher Support Cymru i gael gwybodaeth a chefnogaeth ar faterion personol neu ynghylch gwaith. Gallwch gysylltu â nhw ar y rhif cymorth 0800 085 5088.