CymraegEnglish
Ffurflen Ymaelodi
Cysylltwch â ni
Ymholiad arlein
Cwestiynau
14 Ionawr 2010
UCAC gerbron y School Teachers’ Review Body yn Llundain


Ar y 14 Ionawr, aeth dirprwyaeth o UCAC i gyfarfod gydag aelodau’r School Teachers’ Review Body (STRB) i drafod cylch gwaith y Panel ar gyfer 2009-2010. Eleni, mae’r Gweinidog Plant, Ysgolion a Theuluoedd, Ed Balls, wedi gofyn iddynt edrych yn benodol ar faterion yn ymwneud â thaliadau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) ac Anghenion Addysgol Ychwanegol (AAY), a’r berthynas rhwng rôl Dirprwy a Phennaeth Cynorthwyol, a’r posibilrwydd o ddatblygu criteria i’w diffinio.
 
Cyflwynwyd tystiolaeth ysgrifenedig gan UCAC ym mis Rhagfyr ac roedd y cyfarfod yn gyfle i aelodau’r panel holi cynrychiolwyr UCAC ymhellach am y materion hyn. Roedd yn gyfle i Elaine Edwards (Ysgrifennydd Cyffredinol), Dilwyn Roberts-Young (Is-ysgrifennydd Cyffredinol a Swyddog Maes y De), Eryl Owain (Swyddog Maes y Gogledd) a Dilwyn Ellis-Hughes (aelod o Gyngor Cenedlaethol UCAC ac aelod o’r Adran Gyflogau Pensiynau ac Amodau Gwaith) i fynegi safbwynt UCAC.

Mae copi o dystiolaeth ysgrifenedig UCAC ar gael yma (Tystiolaeth UCAC i'r STRB). Er mwyn darganfod mwy am waith yr STRB ac aelodau’r Panel ewch i wefan yr Office of Manpower and Economics www.ome.uk.com ac edrychwch dan Review Bodies.


 
Newyddion
8 Medi 2010
Twf Addysg Gymraeg yn y De Ddwyrain?
Cyfarfod Cyhoeddus UCAC yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010
4 Awst 2010
DATGANIAD I’R WASG - Lansio Gwefan Swyddi Byd Addysg
4 Awst 2010
Digwyddiadau UCAC yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd
CYFARFOD CYHOEDDUS
Chwilo'r safle

Cliciwch ar y gair Ewch isod, neu teipiwch air perthnasol yn y blwch i fynd i wefan Teacher Support Cymru i gael gwybodaeth a chefnogaeth ar faterion personol neu ynghylch gwaith. Gallwch gysylltu â nhw ar y rhif cymorth 0800 085 5088.