CymraegEnglish
Ffurflen Ymaelodi
Cysylltwch â ni
Ymholiad arlein
Cwestiynau
Chwilo'r safle
26 Ebrill 2012
Tâl Rhanbarthol – teimladau cryf ymhlith athrawon

Tâl rhanbarthol fydd un o’r pynciau llosg yn ystod Cynhadledd Flynyddol undeb addysg UCAC yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Mae Llywodraeth San Steffan yn bygwth diwygio’r drefn bresennol ar gyfer pennu cyflog ac amodau gwaith athrawon Cymru a Lloegr i sicrhau cyflogau sy’n “fwy ymatebol i gyfraddau tâl lleol”.

Meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae’r Llywodraeth am weld system fyddai’n rhoi tâl is i athrawon mewn ardaloedd difreintiedig am wneud yr un gwaith ag athrawon mewn ardaloedd mwy ffyniannus.”

“Dyw hynny ddim yn deg i athrawon unigol nac i’r proffesiwn ac mae’n debygol o achosi prinder athrawon mewn ardaloedd â chyflogau is. Bydd unrhyw newid yn arwain naill ai at drafodaethau hir a ffyrnig ar hyd a lled y wlad ynglŷn â chyflogau lleol neu at benderfyniad gan Lywodraeth San Steffan bod athrawon Cymru’n haeddu llai o gyflog na’r mwyafrif o athrawon yn Lloegr.”

“Dyw aelodau UCAC ddim yn gweld unrhyw synnwyr mewn system o’r fath a bydd cryfder y teimladau i’w clywed yn ystod trafodaethau’r Gynhadledd.”

Nodiadau

·        Bydd Cynhadledd Flynyddol UCAC yn digwydd ar 27-28 Ebrill yng Ngwesty’r Novotel, Caerdydd

·        Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn cynrychioli 5,000 o athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru

·        Mae dau gynnig gerbron y Gynhadledd yn ymwneud â thal rhanbarthol:

“Mae’r Gynhadledd hon yn gwrthwynebu tâl rhanbarthol i weithwyr y sector gyhoeddus, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth San Steffan i dalu llai i weithwyr y sector gyhoeddus yng Nghymru - hyd at hawlio’r cyfrifoldeb am benderfyniadau am gyflog ac amodau gwaith.”

“Mae UCAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu holl weithwyr y Sector Gyhoeddus yn gyfartal yn wyneb ymosodiad gan Lywodraeth San Steffan, ac i sicrhau, os byddant yn cymryd y cyfrifoldeb dros gyflog gweithwyr eraill y Sector Gyhoeddus yng Nghymru, y byddant hefyd yn cymryd y cyfrifoldeb dros ddiogelu athrawon Cymru rhag ymosodiad Llywodraeth glymblaid San Steffan.”

·        Yn ystod y Gynhadledd, bydd cyfarfod arbennig i drafod Tâl Rhanbarthol a’r Cynllun Pensiwn Athrawon, brynhawn dydd Gwener am 16.00.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

·        Elaine Edwards (Ysgrifennydd Cyffredinol) ar 01970 639950 / 07787 573707 

·        Rebecca Williams (Swyddog Polisi) ar 01970 639950 / 07787 572180


 
Follow AthrawonCymru on Twitter
Newyddion
11 Mehefin 2013
Hyfforddiant i Arweinwyr Ysgol
26 Ebrill 2013
UCAC yn ystyried streicio dros chwalu system tâl athrawon
25 Ebrill 2013
Cyflogau Athrawon

Cliciwch ar y gair Ewch isod, neu teipiwch air perthnasol yn y blwch i fynd i wefan Teacher Support Cymru i gael gwybodaeth a chefnogaeth ar faterion personol neu ynghylch gwaith. Gallwch gysylltu â nhw ar y rhif cymorth 0800 085 5088.