26 Ebrill 2012 Cynhadledd Flynyddol UCAC: 27-28 Ebrill 2012 |
| Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yng Ngwesty’r Novotel, Caerdydd ar 27-28 Ebrill 2012.
Dyma rai o’r prif bynciau fydd yn codi:
- Tâl rhanbarthol
- gwrthwynebiad chwyrn i gynlluniau Llywodraeth San Steffan am dâl rhanbarthol - pryderon am y sgil-effeithiau ar gyfer economi Cymru - galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd cyfrifoldeb dros dâl athrawon Cymru yn ogystal â gweithwyr eraill y sector cyhoeddus, yn hytrach na derbyn tâl rhanbarthol o San Steffan - Ffioedd Myfyrwyr Addysg Uwch
- cynnig i gyfyngu ‘top-up’ Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr Cymreig sy’n astudio ym mhrifysgolion Cymru yn unig - Disgyblion ymosodol
- problemau cynyddol yn ysgolion Cymru - Datblygiad cynnar plant: Sgiliau hunan-ofal
- pryder am niferoedd cynyddol o blant yn dechrau yn yr ysgol mewn cewynnau/clytiau, ddim yn gallu bwydo’u hunain a heb ddatblygu sgiliau siarad - Consortia Rhanbarthol
- cwestiynau am eu capasiti i gefnogi ysgolion yn effeithiol - pryder am golli arbenigedd pynciol oherwydd canolbwyntio ar godi safonau cyffredinol - pryder am barodrwydd y consortia i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg
Yr Amserlen
Dydd Gwener, 27 Ebrill:
- 15.00 - Trafod cynigion
- 16.30 - Trafodaeth arbennig am Dâl Rhanbarthol a Phensiynau
Dydd Sadwrn, 28 Ebrill:
- 09.00 - Trafod cynigion
- 10.45 - Siaradwr gwadd: Dr Brett Pugh, Pennaeth Uned Safonau Ysgolion Llywodraeth Cymru/Prif Swyddog Addysg Cyngor Dinas Casnewydd
- 11.15-12.30 - Trafod cynigion
Mae croeso i chi gysylltu os hoffech gael copi o’r cynigion, neu os hoffech fynychu’r gynhadledd.
Am fanylion pellach cysylltwch â:
· Rebecca Williams (Swyddog Polisi) ar 01970 639950 / 07787 572180 |
|