CymraegEnglish
Ffurflen Ymaelodi
Cysylltwch â ni
Ymholiad arlein
Cwestiynau
Chwilo'r safle
1 Mehefin 2012
UCAC yn ehangu ei staff – swyddi’n cael eu hysbysebu

Mae staff UCAC yn ehangu er mwyn gallu ychwanegu at y gwasnaethau y mae’n cynnig i’w aelodau. Byddwn yn ychwanegu ‘Swyddog Maes y De-Ddwyrain’ at y staff o’r flwyddyn nesaf ymlaen – datblygiad sy’n adlewyrchu’r twf mewn aelodaeth yn yr ardal.

Dyma fanylion y dwy swydd sy’n cael eu hysbysebu ar hyn o bryd:

SWYDDOG MAES Y DE DDWYRAIN

Cyfle cyffrous i berson ymroddgar a brwdfrydig i ymuno â thîm UCAC.  Prif waith y Swyddog Maes fydd cynorthwyo a chynghori aelodau a’u cynrychioli mewn achosion, cynyddu aelodaeth a chodi proffil UCAC yn y siroedd ac yn y sector addysg bellach ac uwch.  Darperir hyfforddiant perthnasol.  Bydd gwybodaeth am fyd addysg a/neu faterion cyflogaeth yn fanteisiol.

·        Cyflog: Pwynt 42-45 (£35,430-£38,042) ar Raddfa Gyflogau’r Awdurdodau Lleol

·        Lleoliad: bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn bresennol yn swyddfa’r Undeb yn Aberystwyth am gyfran o’i h/amser; bydd teithio yn rhan hanfodol o’r swydd

·        Dyddiad cychwyn: anelir at lenwi’r swydd erbyn 1 Ionawr 2013

DYDDIAD CAU: DYDD GWENER, 7 MEDI 2012


CYNORTHWYYDD I’R YSGRIFENNYDD CYFFREDINOL

Swydd ddiddorol ar gyfer person cydwybodol ac egnïol sydd yn awyddus i ddod yn aelod o dim UCAC.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gwasanaeth gweinyddol o safon uchel ac yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd amrywiol yr undeb.

Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg - ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Bydd angen:

  • sgiliau llythrennedd a rhifedd da
  • sgiliau teipio
  • y  gallu i ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol amrywiol, megis Word, Excel ac Outlook

Mae’r swydd, sydd wedi ei lleoli ym Mhrif Swyddfa UCAC yn Aberystwyth, yn un llawn amser, 9 tan 5 o’r gloch.

Cyflog Pwynt 25-28 ar Raddfa Gyflogau’r Awdurdodau Lleol.

DYDDIAD CAU: DYDD GWENER 8 MEHEFIN 2012


 
Follow AthrawonCymru on Twitter
Newyddion
26 Ebrill 2013
UCAC yn ystyried streicio dros chwalu system tâl athrawon
25 Ebrill 2013
Cyflogau Athrawon
25 Ebrill 2013
Gwrthwynebiad chwyrn i dâl lleol

Cliciwch ar y gair Ewch isod, neu teipiwch air perthnasol yn y blwch i fynd i wefan Teacher Support Cymru i gael gwybodaeth a chefnogaeth ar faterion personol neu ynghylch gwaith. Gallwch gysylltu â nhw ar y rhif cymorth 0800 085 5088.