Mae undeb addysg UCAC wedi rhoi croeso i argymhellion Estyn yn ei adroddiad diweddaraf ar lythrennedd.
Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar ymchwil mewn 21 ysgol uwchradd, gan ganolbwyntio ar Gyfnod Allweddol 3 – sef y dair blynedd cyntaf yn yr ysgol uwchradd.
Dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC “Mae’r adroddiad yn cyflwyno argymhellion clir ac adeiladol a fydd yn dangos y ffordd ymlaen i ysgolion, Awdurdodau Lleol a’r Llywodraeth. Cytunwn â’r alwad i roi sylw i lythrennedd ar draws y cwricwlwm, ac i beidio’i gyfyngu i bynciau megis Cymraeg a Saesneg. Cytunwn hefyd â’r argymhellion sy’n ymwneud â monitro cynnydd disgyblion mewn modd cyson – bydd hynny’n caniatáu i athrawon adnabod unrhyw broblemau’n gynnar ac i roi cefnogaeth briodol i’r rheiny sydd ei hangen. Rydym yn arbennig o falch i weld cydnabyddiaeth yn yr adroddiad y bydd angen hyfforddiant pwrpasol ar athrawon er mwyn gweithredu’r argymhellion hyn – byddant o dan bwysau aruthrol i godi safonau llythrennedd, ac mi fydd angen cefnogaeth arnynt i wneud hynny.”
Am fanylion pellach cysylltwch â: Rebecca Williams (Swyddog Polisi) ar 01970 639950 / 07787 572180