9 Gorffennaf 2012 UCAC yn Cynnig Hyfforddiant i Athrawon Cyflenwi |
Bydd UCAC yn rhedeg cwrs ar gyfer aelodau sy’n athrawon cyflenwi ar 24 Gorffennaf, yn swyddfeydd UCAC yn Aberystwyth.
Bydd y cwrs yn ymdrin â materion fel:
· sut i ddelio gydag asiantaethau athrawon · amodau gwaith (gyda ffocws arbennig ar hawliau gweithwyr rhan amser) · e-ddiogelwch · amddiffyn plant
Bydd y cwrs yn rhad ac am ddim, ac mi fydd UCAC yn talu costau teithio.
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch cyn gynted â phosib ar ucac@athrawon.com neu 01970 639950.
12 lle yn unig sydd ar y cwrs – y cyntaf i’r felin caiff falu! |
|