+ Ffont fwy | - Ffont llai

[]


Mae ymaelodi ag undeb yn bwysig er mwyn sicrhau bod gennych rywun i ofalu ar ôl eich buddiannau a'ch cynorthwyo pe bai trafferthion yn codi. Mewn undod y mae nerth, a dim ond trwy uno ynghyd fel aelodau undeb y gall athrawon a darlithwyr sicrhau yr amodau gorau yn eu gwaith.

Dylech ymaelodi ag UCAC am fod UCAC:

  • yn bod er mwyn amddiffyn buddiannau athrawon a darlithwyr Cymru
  • yn cynnig cymorth parod o fewn cyrraedd
  • yn meddu ar yr adnoddau i'ch gwasanaethu a'ch diogelu
  • wedi sefydlu rhwydwaith cenedlaethol o gyfreithwyr
  • â'i Brif Swyddfa yng Nghymru
  • yn gweithredu drwy'r Gymraeg
  • yn cydweithio'n llwyddiannus ag aelodau'r Cynulliad
  • yn credu mewn cyfundrefn addysg annibynnol i Gymru
  • yn siarad ar ran athrawon Cymru yn Llundain
  • yn gweithio'n ddiflino dros y Gymraeg yn yr ysgolion, y colegau ac yng ngweinyddiaeth addysg.

Croesewir unrhyw athro, dirprwy, pennaeth neu ddarlithydd yn aelod o UCAC.




[]

Mae UCAC yn aelod o Fudiadau Dathlu'r Gymraeg