+ Ffont fwy | - Ffont llai

Adran Gwasanaethau Cyfreithiol a Chyflogaeth

Aelodau’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol a Chyflogaeth yw: y Llywydd, yr Is-lywydd, yr Ysgrifennydd Cyffredinol a thri aelod arall a etholir gan y Cyngor Cenedlaethol.

Prif gyfrifoldeb yr Adran yw estyn cyngor a chymorth (yn ddi-dâl) i aelodau UCAC ar faterion sy'n berthnasol i'w swyddi, trafod materion cyfreithiol a materion eraill sy'n berthnasol i aelodau yn eu gwaith, a phenderfynu ar y ffordd orau a mwyaf effeithiol o weithredu ar y materion hyn. Mae gohebiaeth â’r Adran hon yn gyfrinachol rhwng yr aelod a swyddogion yr Adran.

Ni ellir trosglwyddo achos i gyfreithiwr heb ganiatâd yr Adran. Mae gan UCAC rwydwaith cenedlaethol o gyfreithiwr i sicrhau gwasanaeth cyflym ac effeithiol i’w aelodau. Os yw UCAC o'r farn y dylid trosglwyddo'r achos i ystyriaeth cyfreithiwr, bydd disgresiwn gan yr Adran pa un ai derbyn cyfarwyddyd y cyfreithiwr ai peidio. Os penderfyna'r Adran ollwng achos yr aelod am unrhyw reswm hysbysir y Cyngor Cenedlaethol o’r penderfyniad hwn.

Gall UCAC wrthod gweithredu ar ran aelod oni chydymffurfia'r aelod â'r amodau canlynol.

(a)

Rhaid iddo fod yn perthyn i'r categori o aelodaeth gyflawn yn ôl y diffiniad yn Rheol 4 y Cyfansoddiad.

(b)  Rhaid iddo fod wedi talu ei dâl aelodaeth gyfredol.
(c) Rhaid iddo gydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Undeb.
(ch) Ni ddylai weithredu ar ei ben ei hun mewn unrhyw fodd.

(d)

Unwaith i’r mater cael ei drosglwyddo i ofal yr Adran, ni ddylai ohebu â'i gyflogwr nac â chyfreithiwr yr Undeb ynglyn â'i achos; dim ond Swyddog UCAC ddylai  gysylltu â chyfreithiwr ar ran aelod.

(dd) Ni ddylai wneud datganiadau cyhoeddus ynglyn â’i achos.
(e) Ni ddylai weithredu mewn unrhyw ffordd yn erbyn cyngor y cyfreithiwr.

Hysbysir yr aelod o'r modd y mae ei achos yn datblygu.

Gall yr Adran neu’r Cyngor wrthod cymorth cyfreithiol mewn mater a ddigwyddodd cyn y dyddiad ymaelodi. Gall yr Adran neu’r Cyngor hefyd ofyn i'r aelod arwyddo datganiad ysgrifenedig ei fod yn ymrwymo i gydymffurfio â'r amodau uchod. Ysgrifennydd yr Adran yw'r Ysgrifennydd Cyffredinol.