Symud oddi wrth y system bandio at system o gategoreiddio cenedlaethol

24 Hydref 2014

Symud oddi wrth y system bandio at system o gategoreiddio cenedlaethol

Ar y Fedi'r 24ain cyfarfu UCAC ynghyd ag undebau eraill â chynrychiolwyr o'r Adran Addysg a Sgiliau i gael gorolwg o'r bwriad i symud oddi wrth fandio ysgol at system o gategoreiddio cenedlaethol.

Y llynedd, disgrifiwyd y system bandio fel ar yr oedd, gan lefarydd ar ran UCAC, fel un 'diystyr', 'anwadal ac annibynadwy', 'eithriadol o aneffeithiol' a bod angen 'dileu’r system ... yn ei chyfanrwydd'. Roedd y drafodaeth a gafwyd yn y cyfarfod yn brawf bod  Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar ein gofidiau ac yn hynny o beth yr ydym fel undeb ydym yn croesawu'r cyhoeddiad.

Bydd y system gategoreiddio'n ystyried arweinyddiaeth ynghyd â dysgu ac addysgu gydag ystyriaeth ofalus i ystod ddata a darganfyddiadau ar hunan werthuso. Bydd ysgolion cynradd ac uwchradd yn rhan o'r system gategoreiddio hon ac mae pwyslais ar gysondeb ar draws y pedwar consortiwm.
 
Rydym yn parhau i aros am fanylion llawn y trefniant ac wedi ysgrifennu at yr Adran Addysg a Sgiliau yr wythnos hon am wybodaeth bellach am y system. Bydd swyddogion yr Undeb hefyd yn trafod yr oblygiadau'r system gategoreiddio gyda'r pedwar consortiwm. Byddai UCAC yn croesawu sylwadau gan arweinyddion ac athrawon ar effaith categoreiddio ar godi safonau ac ar lwyth gwaith.