Cyfarfodydd Cymdeithasau Sir UCAC

12 Mehefin 2015

Cyfarfodydd Cymdeithasau Sir UCAC

Mae swyddogion maes UCAC yn cyfarfod aelodau ym mhob rhan o Gymru ar hyn o bryd yn y cylch tymhorol o gyfarfodydd sirol.

Eisoes mae cyfarfodydd wedi digwydd yng Nghonwy, Gwynedd, Wrecsam, Powys, Sir Benfro a Rhondda Cynon Taf gydag ymdeimlad mai digon yw digon o ran llwyth gwaith athrawon. Yn ystod y cyfarfodydd rydym wedi trafod yr ymgyrchoedd llwyth gwaith a phensiynau gan edrych hefyd ar berthynas yr ysgolion a'r consortia ac oblygiadau Adroddiad Donaldson.

Cyfarfu aelodau UCAC Powys yn y Cann Offis, Llangadfan ar 11 Mehefin 2015.