Cyflog ac amodau gwaith Athrawon Cyflenwi ym Mhowys

19 Gorffennaf 2016

Cyflogau ac amodau gwaith Athrawon Cyflenwi ym Mhowys

Mynychodd UCAC cyfres o gyfarfodydd yr wythnos ddiwethaf yng nghanolbarth, gogledd a de Powys i drafod cyflogau ac amodau gwaith Athrawon Cyflenwi'r sir, o ganlyniad i ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal gan yr Awdurdod Lleol.
 
Bydd UCAC yn ymateb yn llawnach i'r ymgynghoriad o fewn unrhyw derfynau a gytunir arnynt ond rydym yn y man cyntaf am nodi rhai egwyddorion sylfaenol yr undeb.
 
Rydym fel undeb am sicrhau bod athrawon cyflenwi'n rhan allweddol o'r gweithlu addysg. Mae ganddynt y profiad a'r arbenigedd i gynnig addysg o'r radd flaenaf i'r disgyblion yn eu gofal. Mae eu hymrwymiad yn ymestyn i baratoi, cynllunio ac asesu ac at gynnal gwersi o'r radd flaenaf i ystod eang o oedrannau. Yn ystod y cyfarfodydd ac mewn sgyrsiau gydag athrawon cyflenwi yn unigol rydym wedi nodi'r ymrwymiad i'r ysgolion a’r cymunedau ym Mhowys ac wedi tystio i'r ymddiriedaeth a'r gwerthfawrogiad gan ysgolion i'w cyfraniad.
 
Mae dau fater penodol yn ein pryderu'n syth:
 
1. Amseriad yr ymgynghoriad.
 
Mae'r cyfarfodydd cychwynnol wedi digwydd yn wythnos olaf tymor yr haf a hynny'n caniatáu dau ddiwrnod gwaith ar gyfer yr ymgynghoriad. Hyderwn, y byddwch yn cytuno bod hyn yn gwbl amhriodol os yw'r awdurdod am sicrhau ymgynghoriad ystyrlon a thrylwyr fydd yn sicrhau barn ein haelodau.
 
Hefyd, mae ffactorau allanol yn awgrymu'n gryf nad yw'n briodol cynnal y drafodaeth gan gynnwys yr ymgynghoriad ar athrawon cyflenwi gan Lywodraeth Cymru. Er gwybodaeth, rydym yn atodi'r sylwadau sydd wedi eu cyflwyno ar gyfer y Tasglu i'ch sylw.
 
Yn y cyfarfodydd deallwyd bod yr awdurdod yn gwneud gwaith ar absenoldeb oherwydd iechyd a'r oblygiadau i waith cyflenwi a bod yr awdurdod hefyd yn parhau i gasglu gwybodaeth am gytundebau athrawon cyflenwi. Byddai'n gwbl amhriodol cynnal ymgynghoriad heb y wybodaeth briodol i sicrhau bod yr  ymgynghoriad hwnnw'n un teg.
 
2.  Tanseilio proffesiynoldeb athrawon:
 
Bydd yr awdurdod yn gwbl ymwybodol o'r trafodaethau sydd wedi digwydd rhwng yr undebau a chonsortiwm ERW dros y blynyddoedd diwethaf. Canlyniad y  ddeialog fu'n eithriadol o anodd ar brydiau yw sicrhau bod pob athro/athrawes yn cael triniaeth gyfartal a bod egwyddor hygludedd cyflog yn cael ei barchu. Mae hyn yn sicrhau bod athrawon ym mhob rhan o Gymru bellach ar delerau cyffelyb  a hynny'n llesol i'r proffesiwn.
 
Rydym felly'n gresynu mai, o weithredu argymhellion yr ymgynghoriad, athrawon cyflenwi Powys yn unig fyddai'n cael eu trin yn wahanol. Wrth reswm, mae hyn yn codi llu o bryderon yn ymwneud â thegwch a chydraddoldeb all fod yn faterion cyfraith cyflogaeth.  
Yn ddiweddar rydym wedi cael ar ddeall awydd ERW i ddatblygu hawliau athrawon cyflenwi trwy sicrhau mynediad at hyfforddiant a datblygiad proffesiynol fydd yn cydnabod eu cyfraniad i addysg disgyblion. Mae'n gwbl annerbyniol bod yr ymgynghoriad hwn yn tanseilio'r consortiwm ble mae awdurdod wedi cytuno i gynnal trafodaethau gyda'r undebau ar faterion cyflogau ac amodau gwaith.
 
Rydym mewn llwyr gydymdeimlad gydag awydd yr awdurdod i weithredu trefniadau athrawon cyflenwi o fewn y gwasanaeth heb ymyrraeth asiantaethau. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn bod rhaid gwneud hynny ar draul hawliau ac amodau gwaith athrawon mewn modd sy'n tanseilio'r proffesiwn.
 
Galwn felly am ddirwyn yr ymgynghoriad i ben er mwyn cynnal trafodaeth gyda'r undebau i ystyried ffynonellau eraill ar gyfer arbedion.