CymraegEnglish
Chwilo'r safle
Sut? Ewch
Cysylltwch â ni
UCAC Ar Waith
UCAC ArWaith
Yr Athro
Mae UCAC yn aelod
Blwydd lyfr UCAC


UCAC ... yr undeb sy'n gwasanaethu a diogelu athrawon Cymru    

Mae ymaelodi ag undeb yn bwysig er mwyn sicrhau bod gennych rywun i ofalu ar ôl eich buddiannau a'ch cynorthwyo pe bai trafferthion yn codi. Mewn undod y mae nerth, a dim ond trwy uno ynghyd fel aelodau undeb y gall athrawon a darlithwyr sicrhau yr amodau gorau yn eu gwaith.

Dylech ymaelodi ag UCAC am fod UCAC:

  • yn bod er mwyn amddiffyn buddiannau athrawon a darlithwyr Cymru
  • yn cynnig cymorth parod o fewn cyrraedd
  • yn meddu ar yr adnoddau i'ch gwasanaethu a'ch diogelu
  • wedi sefydlu rhwydwaith cenedlaethol o gyfreithwyr
  • â'i Brif Swyddfa yng Nghymru
  • yn gweithredu drwy'r Gymraeg
  • yn cydweithio'n llwyddiannus ag aelodau'r Cynulliad
  • yn credu mewn cyfundrefn addysg annibynnol i Gymru
  • yn siarad ar ran athrawon Cymru yn Llundain
  • yn gweithio'n ddiflino dros y Gymraeg yn yr ysgolion, y colegau ac yng ngweinyddiaeth addysg.

Croesewir unrhyw athro, dirprwy, pennaeth neu ddarlithydd yn aelod o UCAC.

UCAC - Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru

 

Mae UCAC yn aelod o Fudiadau Dathlu'r Gymraeg

Newyddion
30 Ebrill 2008
Cynhadledd Flynyddol UCAC
16 Ebrill 2008
Ymgyrch Cyflogau
Mae tystiolaeth bod lobio Aelodau Seneddol gan aelodau UCAC yn dwyn ffrwyth.
15 Ebrill 2008
Dwy adran newydd ar ein gwefan / Arweiniad i Aelodau UCAC ar adeg o Weithredu Diwydiannol gan Undeb arall.
1. Arbedwch hyd at £349 y flwyddyn 2. Cwestiynau Cyffredin
Ffurflen Ymaelodi