Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid dros Gymru gyfan – yr unig undeb addysg sy’n rhoi addysgwyr Cymru’n gyntaf.
Rydyn ni’n cyfuno gwasanaeth ar lefel bersonol gyda grym undebol nerthol wrth ddylanwadu ac ymgyrchu.
Rydyn ni’n angerddol ynghylch cefnogi ac amddiffyn ein haelodau, ac ynghylch gweithio er budd system addysg sy’n gwbl addas i anghenion Cymru a phawb sy’n byw yma.
Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid dros Gymru gyfan – yr unig undeb addysg sy’n rhoi addysgwyr Cymru’n gyntaf.
Rydyn ni’n cyfuno gwasanaeth ar lefel bersonol gyda grym undebol nerthol wrth ddylanwadu ac ymgyrchu.
Rydyn ni’n angerddol ynghylch cefnogi ac amddiffyn ein haelodau, ac ynghylch gweithio er budd system addysg sy’n gwbl addas i anghenion Cymru a phawb sy’n byw yma.
Os ydych chi’n hyfforddi i fod yn athro, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim i chi trwy gydol eich hyfforddiant.
Felly os ydych chi’n gwneud gradd BAdd, cymhwyster ôl-radd fel TAR (PGCE), neu’n gwneud doethuriaeth ac yn gwneud rhywfaint o addysgu, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.
Os ydych chi’n Athro Newydd Gymhwyso, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim trwy gydol eich blwyddyn addysgu gyntaf, ac yn hanner pris y flwyddyn ganlynol.
Felly os ydych chi newydd gymhwyso, a heb ymaelodi’n barod, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.
3 Chwefror 2023
Ddydd Mercher, 1 Chwefror, roedd Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, ymhlith y siaradwyr yn rali TUC Cymru, Amddiffyn yr Hawl i Streicio. Cynhaliwyd y rali yng Nghaerdydd mewn ymateb i’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth San Steffan i gyflwyno deddfwriaeth gwrth-undebol a fyddai’n cyfyngu ar hawliau unigolion i streicio. Mae’r gyfraith arfaethedig yn golygu y gellid gorfodi gweithwyr i weithio, er eu bod wedi pleidleisio’n ddemocrataidd i streicio. Dywedodd Ioan, “Mae’n bwysig ein bod yn amddiffyn rhyddid gweithwyr a’u hawl i leisio eu barn a gweithredu er mwyn amddiffyn eu cyflog a’u hamodau gwaith. Mae UCAC yn falch o sefyll dros hawliau ei haelodau.”
Roedd cannoedd yn bresennol yn y rali yng Nghaerdydd ac mae dros 200,000 o bobl eisoes wedi llofnodi deiseb yn erbyn y ddeddfwriaeth gwrth streicio.
17 Ionawr 2023
Pleidleisiodd mwyafrif mawr o’r rhai a bleidleisiodd o blaid mynd ar streic, fodd bynnag, ni lwyddwyd i gyrraedd y trothwy angenrheidiol o 50% o bleidleisiau wedi eu dychwelyd i weithredu.
Pleidleisiau a fwriwyd fel canran o’r unigolion a oedd â’r hawl i bleidleisio 45.19%
Cwestiwn: Ydych chi’n barod i gymryd rhan mewn streic?
Nifer y papurau a ddifethwyd, neu yn annilys 0
Canlyniad y Bleidlais
Ydw 88.62%
Nac Ydw 11.38%
Byddwn felly yn ymgynnull cyfarfod brys o’r Cyngor Cenedlaethol wythnos nesaf i drafod y ffordd ymlaen. Yn y cyfamser bydd UCAC yn parhau i drafod gyda’r Llywodraeth a’r Awdurdodau ar ran aelodau o ran llwyth gwaith a chyflog.
Prif Swyddfa UCAC
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 2EU
01970 639950
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
©UCAC Holl hawliau ar gadw. Datblygwyd gan SmartData UK Ltd