Pam ymaelodi?

Amcanion 

Dyma amcanion UCAC. Mae nhw wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud fel undeb. 

  • Sicrhau cyfundrefn addysg annibynnol i Gymru 
  • Diogelu a gwella amodau gwaith aelodau ac amddiffyn eu buddiannau 
  • Hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb mewn addysg 
  • Hyrwyddo defnyddio'r iaith Gymraeg, gan gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg, a diwylliant Cymreig yn ei holl amrywiaeth, yn sefydliadau addysg Cymru 
  • Cyfrannu tuag at godi a chynnal safonau addysgol 

Mae UCAC yn: 

  • diogelu athrawon, arweinwyr ysgol, darlithwyr a thiwtoriaid Cymru 
  • cynnig cymorth parod o fewn cyrraedd, trwy gyfrwng y Gymraeg 
  • dylanwadu’n llwyddiannus ar bolisïau addysg 

Gwasanaeth i aelodau 

Fel aelod o UCAC, byddwch yn derbyn: 

  • cyngor a chymorth di-dâl ar faterion yn ymwneud â’ch gwaith 
  • cynigion a gostyngiadau arbennig ar nwyddau a gwasanaethau 
  • cylchgrawn tymhorol ‘Yr Athro’ 
  • cyfleoedd i ymgyrchu 
  • cyfleoedd i fod yn weithgar gyda’r undeb mewn amrywiol ffyrdd, yn lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol 
  • cyfleoedd am hyfforddiant a rhwydweithio/cymdeithasu gyda chyd-aelodau 


Absenoldeb Mamolaeth / Mabwysiadu / Rhiant a Rennir - aelodaeth hanner pris

Caiff aelodau sy'n talu eu tâl aelodaeth drwy ddebyd uniongyrchol haneru eu taliadau misol yn ystod eu cyfnod o absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu/rhiant a rennir - beth bynnag yw hyd yr absenoldeb hwnnw. Cofiwch hysbysu'r Brif Swyddfa os ydych ar fin cymryd absenoldeb o'r fath.