Cod Ymddygiad UCAC

AELODAETH O’R UNDEB

1. Dylai pob aelod gefnogi amcanion yr Undeb.

2. Dylai pob aelod weithredu yn unol â Rheolau’r Undeb ar bob achlysur.

3. Disgwylir i bob aelod sy’n derbyn swydd o fewn yr Undeb gyflawni’r swydd honno yn brydlon, yn drefnus ac effeithiol.

4. Ni ddylai aelod ar unrhyw adeg ddwyn anfri bwriadol ar yr Undeb.

5. Disgwylir i bob aelod sy’n derbyn swydd o fewn yr Undeb, yn lleol, sirol ac yn genedlaethol fynychu cyfarfodydd sy’n ymwneud â’i swydd.

6. Gall y Cyngor Cenedlaethol wahardd o’i swydd unrhyw aelod a geir yn euog o dwyll, esgeulustod neu unrhyw gamwedd arall ar faterion yn ymwneud â gwaith yr aelod fel swyddog o’r Undeb.

7. Lle bo achos o anghydfod undebol rhwng dau neu ragor o aelodau’r Undeb, gall un neu ragor o’r aelodau ddwyn yr anghydfod i sylw’r Ysgrifennydd Cyffredinol. Pe bai arweiniad yr Ysgrifennydd Cyffredinol yn annerbyniol i’r aelod(au) bydd hawl gan yr aelod(au) i ddarparu cwyn ysgrifenedig am y mater i sylw’r Cyngor Cenedlaethol yn unol â darpariaeth Rheol 6 o Reolau’r Undeb (Gweler cyfansoddiad UCAC).

8. Disgwylir i bob aelod gydymffurfio â chyfarwyddiadau’r Undeb ar adeg o weithredu diwydiannol.

9. Ni ddylai aelod siarad yn gyhoeddus ar ran UCAC heblaw o dan gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Cyffredinol.

Nid yn y wasg nac ar y cyfryngau y mae mynegi safbwyntiau sydd yn groes i’r polisïau swyddogol y cytunwyd arnynt yn ddemocrataidd mewn cyfarfodydd a chynadleddau lleol a chenedlaethol. Trwy fynychu cyfarfodydd a chynadleddau y gellir sicrhau bod UCAC yn lleisio barn trwch yr aelodau.

YR AELOD YN Y GWAITH

10. Ni ddylai aelod gollfarnu cydweithiwr yng ngŵydd cydweithwyr eraill, nac wrth disgyblion, myfyrwyr, rhieni na’r cyhoedd ar lafar, yn ysgrifenedig neu’n electronig.

11. Ni ddylai aelod ymddwyn yn amhriodol tuag at unrhyw ddisgybl/myfyriwr na dangos ffafriaeth neu anffafriaeth tuag at ddisgybl/myfyriwr unigol nac unrhyw grŵp o ddisgyblion/myfyrwyr.

12. Dylai aelod wrthod cais Pennaeth neu gydweithiwr arall mewn sydd o gyfrifoldeb i wylio’n ddirgel a dwyn adroddiad ar waith a pherfformiad cydweithwyr.

Atgoffir aelodau:

· Mai trwy fynychu cyfarfodydd a chynadleddau mae sicrhau bod UCAC yn lleisio barn trwch yr aelodau.

· Bod modd derbyn copi o’r Rheolau a’r Cyfansoddiad drwy gysylltu â’r Brif Swyddfa.

Datganiad cydraddoldeb:

Mae UCAC yn ymrwymedig i drefnu gweithgareddau lle y gall pawb gyfrannu ynddyn nhw mewn amgylchedd cynhwysol, parchus a diogel. Nid oes gan y UCAC unrhyw oddefgarwch tuag at unrhyw fath o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol. Ni fydd unrhyw ymddygiadau neu sylwadau ymosodol, sarhaus, bygythiol, amharchus neu annerbyniol yn cael eu goddef. Mae hyn yn cefnogi’r ymrwymiad a osodwyd yn rheolau’r UCAC i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb a chael gwared â phob ffurf o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, rhagfarn a gwahaniaethu annheg. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob agwedd o gyfathrebu mewn digwyddiad neu mewn cysylltiad â digwyddiad, gan gynnwys postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn ag ymddygiad yr ydych chi’n dymuno eu trafod, cysylltwch â ni drwy e-bost os gwelwch yn dda: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.