PLEIDLAIS AR GYLLIDEB ATODOL - YMATEB UCAC

Gorffennaf 15fed,2026

Ymateb i'r bleidlais ar Gyllideb Atodol ddydd Mawrth, Gorffennaf 14eg, 2026 

Mae UCAC wedi siomi'n fawr bod gwleidydda gan bleidiau gwleidyddol a chyrff eraill yn golygu na fydd ysgolion Cymru yn derbyn arian ychwanegol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).  Mae angen pob ceiniog bosibl i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc ac mae'n hollbwysig fod system gynaliadwy ar eu cyfer.  Siomedig iawn ydyw bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael eu defnyddio fel arfau gwleidyddol yn y fath fodd ac nad oes modd rhoi trefniadau yn eu lle i ddefnyddio'r £120 miliwn ychwanegol yr oedd Llywodraeth Cymru am ei ddyrannu ar gyfer ADY.

CODIAD CYFLOG 2026 - YMATEB UCAC

Gorffennaf 15fed, 2026 

Mewn cyfarfod neithiwr (Gorffennaf 14eg) o Gyngor Cenedlaethol UCAC, penderfynwyd peidio â gwrthwynebu'r cynnig o godiad cyflog o 3.5% i athrawon o fis Medi 2026.  Croesawyd y ffaith bod y codiad o 3.5% wedi ei ariannu'n llawn, yn unol â gofyn UCAC a'r undebau eraill.  Croesawyd hefyd y ffaith fod y datganiad gan y Gweinidog yn cyfeirio'n benodol at ymarferwyr mewn colegau, yn ogystal ag athrawon.  

Ymhellach, roedd croeso i'r ffaith y bydd argymhellion eraill gan y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (CACAC) yn cael eu hystyried dros yr haf.  Byddwn felly fel undeb yn pwyso ar y Gweinidog i roi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r llwyth gwaith a'r amodau gwaith anodd sy'n wynebu athrawon.  Rydym wedi cael addewidion oddi wrth Lywodraethau'r gorffennol ond nid ydym wedi symud ymlaen nemor ddim yn y maes hwn.  Efallai fod Llywodraethau'r gorffennol wedi gwrando, ond ychydig iawn o weithredu sydd wedi bod.  Hyderwn y bydd y Llywodraeth newydd hon wir yn gwneud gwahaniaeth ac na fyddwn yn gweld patrwm tebyg i'r hyn a welwyd gan Lywodraethau eraill, lle roedd hi'n ymddangos eu bod yn gwrando ond heb weithredu. 

Fodd bynnag, datganodd y Cyngor Cenedlaethol siom yn y ffaith nad yw'r Llywodraeth wedi dangos gwir hyder yn ei phwerau datganoledig.  Yn hytrach, mae'n ymddangos ei bod wedi dod i'w phenderfyniad yn sgil y penderfyniadau a wnaed yn Lloegr, yn hytrach nag ar sail amgylchiadau a blaenoriaethau Cymru ei hun.  Pe bai argymhellion CACAC wedi'u gweithredu eleni, byddai cyflogau athrawon wedi codi 4.25%. 

Rhaid cofio bod materion addysg wedi eu datganoli ers blynyddoedd bellach.  Rydym yn frwd i sicrhau y bydd penderfyniadau ar gyflogau yn y dyfodol yn adlewyrchu egywddorion ac ysbryd datganoli, ac yn dilyn argymhellion CACAC.  

YMATEB YN DILYN DATGANIAD LLYWODRAETH CYMRU

Gorffennaf 13eg, 2026 

YMATEB UCAC I DDATGANIAD YSGRIFENEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU: DYFARNIAD CYFLOG 2026/27

Yn dilyn datganiad Anna Brychan AS, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg heddiw (Gorffennaf 13eg, 2026), bydd Cyngor Cenedlaethol yr Undeb yn cyfarfod brynhawn yfory i drafod y datganiad. 

 

Mae UCAC yn siomedig nad yw'r Llywodraeth wedi dilyn argymhelliad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru a fyddai wedi sicrhau cynnydd cyflog o 4.25% i athrawon - cynnydd sy'n uwch na'r 3.5% sydd yn destun yr ymgynghoriad presennol.  Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o'r heriau ariannol sy'n wynebu'r Llywodraeth newydd ac yn croesawu'r ffaith fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i ariannu'r cynnydd o 3.5% yn llawn. 

 

Cydnabyddwn fod codiadau cyflog yn bwysig i athrawon, ond rydym hefyd yn ymwybodol iawn mai'r hyn sydd yn yn peri'r pryder pennaf i athrawon yw'r llwyth gwaith a'r amodau gwaith trwm ac anodd.  Yn ei dogfen 'Y 100 Diwrnod Cyntaf', mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i 'ddechrau lleihau'r baich biwrocrataidd ar athrawon'.  Edrychwn ymlaen at weld y camau a gaiff eu cymryd i wireddu'r addewid hwnnw, a bydd llais UCAC yn un cadarn ar ran y proffesiwn yn y drafodaeth honno. 

Ymhlith yr agweddau cadarnhaol ar y datganiad heddiw, mae'r ymwymiad i 'gefnogi dyblu'r cyfnod pan delir cyflog llawn i athrawon yn ystod absenoldeb mamolaeth'.  

Edrychwn ymlaen at drafod holl agweddau'r datganiad yng nghyfarfod y Cyngor Cenedlaethol brynhawn yfory.  

 

 

ADNODD MATHEMATEG CYMRAEG NEWYDD

Gorffennaf 2026 

Ym mis Medi eleni, lansir fersiwn Gymraeg o Sumdog, llwyfan mathemateg ar-lein a ddefnyddir gan lu o ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru.  Ar hyn o bryd, adnodd Saesneg yn unig yw Sumdog, ond mae'n braf gwybod y bydd pethau'n newid ym mis Medi.  

Dyma fydd y ddarpariaeth gyntaf o'i bath i addasu i lefel pob disgybl, i gyd-fynd yn llawn â Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd Cwricwlwm i Gymru, ac i fod ar gael yn gyfan gwbl yn y Gymraeg. 

Gan gofio fod gwella safonau rhifedd yn un o flaenoriaethau addysgol cyfredol Cymru, edrychwn ymlaen at weld yr adnodd cyfrwng Cymraeg hwn.  Mae'r fersiwn Gymraeg yn cynnwys mwy na 200,000 o gwestiynau mathemateg a chynnwys cysylltiedig.  Cafodd ei datblygu gan athrawon cyfrwng Cymraeg a'i sicrhau o ran ansawdd gan adolygydd iaith Gymraeg. 

Byddai Rhidian James, Rheolwr Prosiect Cyfieithu Cymraeg Sumdog, yn croesawu'r cyfle i drafod yr adnodd, rhannu'r dystiolaeth a chlywed barn ymarferwyr ac ymgynghorwyr ar draws y sector addysg yng Nghymru.  

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr adnodd newydd hwn, neu os ydych yn awyddus i gofrestru eich diddordeb, ewch i: 

https://learn.sumdog.com/en-gb/schools/curriculum-coverage/curriculum-for-wales-alignment

GWRES LLETHOL

Mehefin 24ain, 2026 

Yn wyneb y gwres llethol, rydym yn deall ac yn annog yr angen i ystyried a dilyn trefniadau gwahanol i’r arfer.  Mae sefyllfa pob ysgol yn wahanol, ond mae’n bwysig bod camau pendant yn cael eu cymryd i asesu’r risg i’r gweithlu ac i ddysgwyr.   Rhaid bod yn ofalus a gofalgar o bob unigolyn yr ysgol, gan roi sylw dyledus ac arbennig i’r carfannau hynny y bydd y gwres yn effeithio fwyaf arnynt.    O fod wedi asesu’r risg, yna mae’n bwysig bod y camau priodol yn cael eu cymryd o fewn ysgolion, gan addasu trefn diwrnod, gofynion gwisg a gweithgareddau yn ôl yr angen.  Os nad yw’r asesiad risg yn gallu gwarantu diogelwch staff a disgyblion, yna rhaid derbyn fod yr ysgol yn wynebu’r penderfyniad anochel o gau’r ysgol.   Mae’n bwysig bod pob aelod o’r gweithlu a phob dysgwr yn gweithio mewn awyrgylch diogel.