Y BERTHYNAS RHWNG ATHRAWON A RHIENI

Tachwedd 2024 

Ydych chi am ystyried sut y gallwch adeiladu gwell perthynas rhyngoch chi fel athro/athrawes a rhieni dysgwyr?  Os mai 'Ydw' yw eich ateb i'r cwestiwn, beth am gofrestru ar gyfer gweminar sydd wedi ei threfnu gan Education Support.  Mae'r weminar yn cynnwys cyfraniadau gan ystod o addysgwyr.   Cynhelir y weminar ddydd Mawrth 26 Tachwedd 2024 rhwng 4 a 5 y prynhawn.  

Pam mae'r weminar hon mor bwysig?  

*mae sefydlu a chynnal perthnasau gwaith cadarnhaol gyda rhieni ac athrawon yn hanfodol ar gyfer sicrhau llwyddiant dysgwyr 

Bydd y weminar yn cynnig: 

* arweiniad ar ddatblygu a chynnal perthnasau gwaith cadarnhaol 

* cyngor defnyddiol sut i gynnal sgyrsiau gyda rhieni 

* cefnogaeth a chyngor iechyd meddwl, gan nodi sut i ymdrin ag ymddygiad heriol 

*arweiniad ar sut y gall ysgolion ddatblygu polisiau a strategaethau a fydd yn hybu perthnasau iach

Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â'r weminar, dilynwch y ddolen isod: 

Building better parent-teacher relationships

Cynhelir y weminar drwy gyfrwng y Saesneg.  Gofynnir am gyfraniad o bunt oddi wrth bawb fydd yn mynychu.  

 

 

 

CYRSIAU EDUCATION SUPPORT

1 Hydref 2024 

Mae gan Education Support ystod o ddosbarthiadau meistr llesiant rhyngweithiol a chyffrous i reolwyr ac arweinwyr ysgol eu harchebu nawr. Mae'r lleoedd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, heb unrhyw gost i staff. 

 Ceir manylion pellach isod:

Cofrestrwch nawr, heb unrhyw gost i chi! 

Weithiau gall gwaith eich llethu a byddwch yn colli eich hunaniaeth yn eich gwaith a all effeithio ar eich llesiant. Bydd y dosbarth meistr rhyngweithiol hwn, ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr ysgol yng Nghymru, yn eich helpu i ad- ‘hawlio’ bod yn dosturiol tuag atoch eich hun a deall yr hyn sy'n bwysig i chi, adennill eich diben a chryfhau. Bydd yn tynnu sylw at y gwahaniaethau allweddol rhwng ‘gwneud’ a ’bod’ ac na ddylai un fod ar draul y llall.

Cofrestrwch nawr, heb unrhyw gost i chi! 

Mae'r gweithdy hwn, ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr ysgol sy'n gweithio mewn ysgolion yng Nghymru, yn edrych ar y prosesau ymchwilio pan fydd pobl yn destun achwyniad disgyblu neu achos absenoldeb ac yn cynnig argymhellion ynghylch ymddygiad i wneud i'r broses redeg mor esmwyth â phosibl.

Byddwn yn edrych ar sut i drin eraill yn deg, meddwl am effaith y broses, cynnig cefnogaeth briodol, tonyddiaeth a thosturi a sut mae'r gyfraith yn ystyried gwaharddiadau.

Cofrestrwch nawr, heb unrhyw gost i chi! 

Yn ystod y dosbarth meistr hwn, ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr ysgol sy'n gweithio mewn ysgolion yng Nghymru, byddwn yn edrych ar nifer o ddamcaniaethau/modelau ymarferol gan gynnwys cylch galar diswyddo, y gromlin newid. Byddwn yn edrych ar sut i drin eraill yn deg, meddwl am effaith y broses, cynnig cefnogaeth briodol, tonyddiaeth a thosturi a sut mae'r gyfraith yn ystyried gwaharddiadau.

EDUCATION SUPPORT - DOSBARTHIADAU MEISTR

Awst 2024

 Gwybodaeth am ddosbarthiadau meistr a gynhelir ym mis Medi 2024.  

Ydych chi wedi bod ar un o ddosbarthiadau meistr rhyngweithiol Education Support?  Os nad ydych, peidiwch â phoeni - dyma eich cyfle!  

Mae dosbarthiadau meistr lles rhyngweithiol Education Support yn ôl ar gyfer mis Medi! Ariennir y lleoedd gan Lywodraeth Cymru, heb unrhyw gost i staff.

 DYDDIAD AC AMSER 

    •  Medi 20fed, 09.30-12.00

CYNNWYS

    •  Lles a llwyth gwaith: sut i reoli eich llwyth gwaith mewn lleoliad addysg, gan ofalu amdanoch eich hun ar yr un pryd 

 Yn ystod y dosbarth meistr cefnogol a chyfrinachol hwn byddwch yn:

    • Rhoi sylw i'r hyn yr ydych yn angerddol yn ei gylch a phwrpas eich rôl, er mwyn eich atgoffa pam y daethoch i'r proffesiwn yn y lle cyntaf.
    • Archwilio ymchwil a theori sy'n gysylltiedig â llwyth gwaith megis  'gweithio'n gallach nid yn galetach', damcaniaeth 'ymateb dos', y 'ffenestr oddefgarwch', enillion ymylol a'r cysyniad o gynhyrchiant. Byddwch yn archwilio'r theori a'r strategaethau cysylltiedig y gallwch eu rhoi ar waith i reoli llwyth gwaith addysgu yn well.
    • Ystyried yr arwyddion a ddaw yn sgil 'gorweithio' a sut mae osgoi mynd i'r cyflwr hwnnw
    • Archwilio'r ffordd orau o ofalu am eich lles yn ystod y tymor prysur ac yn ystod adegau anodd i chi 

Ar gyfer pwy mae'r dosbarth meistr hwn?

Mae’r sesiwn hon yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ym myd addysg, ond yn enwedig y rhai sy’n teimlo eu bod wedi eu llethu gan lwyth gwaith, gan gynnwys athrawon sy’n ei chael hi’n anodd teimlo eu bod yn athrawon llwyddiannus, gan lwyddo ar yr un pryd i ofalu am eu lles.

DOSBARTH MEISTR RHYNGWEITHIOL

Gorffennaf 2024 

Mae Education Support yn trefnu dosbarth meistr rhyngweithiol ddiwedd mis Medi.  Cynhelir y dosbarth 'Arweinyddiaeth ysgol: Sut i ffynnu a ffynnu mewn cyfnod cymhleth' ar 25 Medi, rhwng 9.00 a chanol dydd.  

Mae’r dosbarth meistr hwn ar gyfer arweinwyr ysgolion a rheolwyr llinell yng Nghymru. Bydd yr arbenigwraig, Maggie Farrar, yn gweithio gyda chi i archwilio'r byd cymhleth yr ydym yn byw ac yn arwain ynddo, ac yn eich helpu i fanteisio ar eich doethineb eich hun i feithrin 'presenoldeb arweinyddiaeth'. Bydd hi'n edrych ar sut mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi magu arferion dealladwy a ffyrdd o weithio yn ein hysgolion sydd yn golygu mai gweithwyr ar 'lefel rhybudd uchel gyson' sy'n anodd eu newid.

Ymhlith y pynciau a drafodir yn y dosbarth meistr hwn mae:
• Ffyrdd o weithio sy'n erydu ein lles
• Sut y gallwn adeiladu arferion iachach
• Gwella ein gwytnwch i'n helpu i gynnal ein hunain yn y rôl heriol o fod yn arweinydd mewn ysgol
• Sut y gallwn ni gadw'n gytbwys, yn dawel ac yn ddiogel, hyd yn oed ar yr adegau mwyaf cythryblus
• Pwysigrwydd adnewyddu ac ailgyflenwi ein hunain fel arweinwyr
• Pwysigrwydd defnyddio ein sgiliau tosturi a charedigrwydd fel 'cyfrwng newid' yn ein hysgolion a pha mor bwerus yw arweinyddiaeth lwyr.

GALWAD AM YMDDIRIEDOLWYR

Gorffennaf 2024

Mae UCAC yn cynrychioli athrawon,  darlithwyr ac arweinwyr addysg ym mhob cwr o Gymru.  

Rydym yn awyddus i benodi ymddiriedolwyr newydd i gyfrannu at lywodraethiant yr Undeb. Mae croeso i unrhyw aelod neu gyn-aelod fynegi diddordeb, a’r Cyngor Cenedlaethol fydd yn penodi’n derfynol. 

Prif rôl Ymddiriedolwyr UCAC yw llywodraethu a rheoli asedau’r Undeb:  

  • Gwarchod holl fuddsoddiadau’r Undeb, a derbyn cyngor gan yr ymgynghorwyr ariannol perthnasol
  • Bod yn gyfrifol am eiddo’r Undeb, gan sicrhau fod anghenion iechyd a diogelwch yn cael eu diwallu a sicrhau bod yr eiddo yn cael ei gadw’n safonol. 
  • Sicrhau bod Cynllun Pensiwn UCAC yn cael ei weinyddu’n effeithiol ac yn gywir gydag arweiniad arbenigwyr.

Mae’n gyfrifoldeb cyffredinol ar yr Ymddiriedolwyr i sicrhau gwytnwch yr Undeb a disgwylir iddynt gyfrannu at drafodaethau yn ymwneud â chyllid a datblygiad UCAC.

Disgwylir i Ymddiriedolwyr fod ar gael i gyfarfod o leiaf dair gwaith y flwyddyn. 

Disgwylir i ymddiriedolwyr wasanaethu am dymor o dair blynedd, ond mae modd gwasanaethu am sawl tymor yn ddilynol.  

Nid oes tâl i’r rôl hon, ond cynigir costau teithio. 

Os oes diddordeb gennych i ymgymryd â’r rôl, cysylltwch â Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. am sgwrs neu i fynegi diddordeb gan roi crynodeb o’ch gyrfa ac amlinelliad yn egluro eich diddordeb.