CYFLE I GYFRANNU AT BROSIECT
Ebrill 2025
PROSIECT ADNABOD GEIRFA GRAIDD PLANT OEDRAN 7-11 OED
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn comisiynu darn o waith ymchwil er mwyn adnabod geirfa graidd plant rhwng 7 ac 11 mlwydd oed. Y bwriad yw casglu geirfa y mae dysgwyr blwyddyn 3 hyd at flwyddyn 6 yn debygol o’u defnyddio’n rheolaidd ac sydd angen iddyn nhw fod yn ymwybodol ohonynt wrth iddyn nhw ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn eu hysgolion ac yn gymdeithasolMaent yn chwilio am grŵp cynrychioladol o athrawon i fod yn rhan o’r ymchwil hwn. Bydd tâl i bob unigolyn sy’n cymryd rhan yn y prosiect.
Ydych chi’n gweithio yn un o’r sectorau canlynol?
- Athro mewn Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg
- Athro mewn Ysgol Gynradd Dwy iaith/Iaith Ddeuol
- Athro sydd yn gallu siarad Cymraeg hyd at lefel B1 Canolradd mewn Ysgol Gynradd Cyfrwng Saesneg
- Athro sy’n siarad Cymraeg mewn Ysgol Gynradd Ddwyieithog
- Athro mewn Uned/Gwasanaeth Trochi Sector Cynradd
- Athro yn y Sector Cynradd sydd wedi dilyn y Cynllun Sabothol
- Uwch gymhorthydd (CALU/HLTA)
- Athro bro/athro Sector Cynradd sy’n cefnogi’r Gymraeg
Beth yw’r gofynion o ran amser?
Bydd angen i chi roi 4 awr o’ch amser eich hun, y tu hwnt i oriau ysgol dros gyfnod o ddau ddiwrnod.
Cynhelir y ddwy sesiwn ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Mercher , y 4ydd o Fehefin, 2025 4.30pm tan 6.30
Dydd Iau, y 5ed o Fehefin, 2025 4.30pm tan 6.30pm
Noder bod rhaid i chi fynychu’r ddwy sesiwn a thelir tâl o £150 am eich amser a’ch mewnbwn wedi’r ddwy sesiwn
Beth sydd angen i chi wneud?
Bydd academyddion Prifysgol Abertawe yn eich arwain drwy’r sesiynau ar lein (Teams) ble bydd gofyn i chi feddwl am gasgliad o eiriau sy’n gysylltiedig â chategoriau penodol yng nghyd-destun bywyd plentyn e.e.
’meddyliwch am 20 gair hanfodol y byddech yn eu cysylltu gyda’r categori chwarae’.
Disgwylir i chi gyflwyno’r geiriau ar ffurf google form, yn y fan a’r lle cyn symud ymlaen at y categori nesaf. Ni fydd gwaith ychwanegol wedi’r cyfarfodydd ar lein a bydd cyfarwyddyd clir yn cael ei roi i chi i’ch arwain drwy’r dasg.
Sut mae cofrestru?
Os oes gennych ddiddordeb y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r google form isod yw dydd Llun 12fed o Fai, 2025. Bydd rhaid i ni weithredu ar yr egwyddor cyntaf i’r felin os ceir gormod o geisiadau.
https://forms.gle/BTn3NCRSArdsmczs5
Cynhelir y sesiynau trwy gyfrwng y Gymraeg.