Dileu cludiant am ddim i ysgolion Cymraeg yn “gwbl annerbyniol” meddai UCAC

15 Mehefin 2018

Dileu cludiant am ddim i ysgolion Cymraeg yn “gwbl annerbyniol” meddai UCAC

Yn sgil gwybodaeth a ddaeth i law bod Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu rhoi ystyriaeth i ddileu cludiant am ddim i ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC a Swyddog Maes y Gogledd:

“Gwyddom fod pwysau ariannol aruthrol ar Awdurdodau Lleol. Fodd bynnag, byddai dileu cludiant am ddim i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gam gwag anferthol. Mae UCAC o’r farn bod y ffaith ei fod dan drafodaeth hyd yn oed yn gwbl annerbyniol.

“Mae Mesur Teithio i Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn rhoi dyletswydd ar bob awdurdod lleol i “hyrwyddo mynediad at addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.” Mi fyddai dileu’r cludiant yn mynd yn groes i’r gofyniad statudol hwn ac yn creu rhwystrau gwirioneddol i ddisgyblion rhag cyrraedd addysg cyfrwng Cymraeg.

“Y canlyniad amlwg yw y bydd nifer o ddisgyblion yn cael eu gorfodi i fynychu ysgol cyfrwng Saesneg agosach at adref, gan eu hamddifadu o addysg yn eu mamiaith, neu yn achos disgyblion o gartrefi di-Gymraeg, yn eu hamddifadu o’r hawl i ddod yn ddinasyddion hyderus a naturiol ddwyieithog.

“Byddai hynny’n ergyd uniongyrchol yn erbyn polisi Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae’r cam hwn gan Sir y Fflint yn arwydd eu bod yn gwbl ‘despret’ o safbwynt cyllidebol. Os felly, mae’n bryd i ni gael trafodaeth ar lefel genedlaethol ynghylch lefelau a dulliau ariannu’r system addysg.”

Noda UCAC fod Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir y Fflint (2017-2020) yn gwbl glir ar y mater:

“Mae Cyngor Sir y Fflint yn bodloni gofynion Adran 10 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Mae Polisi Cludiant Ysgolion yr awdurdod lleol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol i gael cludiant am ddim i ysgolion Cyfrwng Cymraeg... Mae mynediad i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei hwyluso gan ddarparu rhwydwaith o lwybrau cludiant addas ac amseroedd teithio nad ydynt yn ormodol.”

Mewn perthynas ag addysg ôl-16, mae’r Cynllun yn nodi:

“Darperir cludiant am ddim i ddysgwyr sy’n dymuno cael mynediad at gyrsiau ôl-16 yn Ysgol Uwchradd cyfrwng Cymraeg yr awdurdod lleol... er nad oes cynlluniau ar hyn o bryd i ddiwygio’r polisi, gallai cael gwared ar y ddarpariaeth ddewisol hon yn y dyfodol gyflwyno her, o ran gallu dysgwyr i gael mynediad at addysg ôl-16 trwy gyfrwng y Gymraeg.”

DIWEDD

Nodiadau

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.