Pryder mawr ynghylch Saesneg orfodol

29 Ionawr 2019

Pryder mawr ynghylch Saesneg orfodol

Mae undeb addysg UCAC wedi codi pryderon ynghylch un o gynigion Papur Gwyn Llywodraeth Cymru am y cwricwlwm newydd, ‘Cenhadaeth Ein Cenedl: Cwricwlwm Trawsnewidiol’.

Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae’r cynnig yn y Papur Gwyn i wneud y Saesneg yn bwnc gorfodol ar gyfer disgyblion 3-16 oed yn destun pryder sylweddol iawn, a hynny mewn perthynas â’r Cyfnod Sylfaen yn benodol.”

Mewn cylchoedd meithrin ac ysgolion cyfrwng Cymraeg mae ‘trochi’ plant – o bob cefndir ieithyddol - yn yr iaith Gymraeg wedi bod yn effeithiol dros ben o ran caniatáu iddynt ddod yn rhugl yn yr iaith. Mae’r Saesneg yn cael ei gyflwyno’n raddol o 7 oed ymlaen, gyda’r plant yn dod yn ddwyieithog bron yn ddiymdrech.

Dywedodd“Mewn sefyllfa fel yng Nghymru ble mae iaith leiafrifol yn cydfyw ag un o ieithoedd fwyaf grymus y byd, dyma’r model sy’n llwyddo orau i oresgyn yr anghydbwysedd grym. Mae’n rhoi gafael cynnar a naturiol ar y Gymraeg i’r plant tra’n caniatáu iddynt ddatblygu eu sgiliau Saesneg yn llawn hefyd.  

“Mae’r cynnig yma’n bygwth y drefn hynod effeithiol sy’n bodoli ar hyn o bryd ac yn mynd yn gwbl groes i bolisi Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae’n bwysig yn ogystal tynnu sylw at y ffaith nad yw’r cynnig yn dod o adroddiad Yr Athro Graham Donaldson ‘Dyfodol Llwyddiannus’ – sy’n sail ar gyfer y diwygiadau i’r cwricwlwm.

“Galwn ar Lywodraeth Cymru i gynnig eglurhad cyn gynted â phosib.”

DIWEDD

Nodiadau

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.