NEWID Y CALENDR GWYLIAU YSGOL

21 Tachwedd 2023 

Mae UCAC yn hynod o siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hymgynghoriad ar y flwyddyn ysgol heb ymgysylltu’n llawn o flaen llaw â’r undebau athrawon.  Teimla’r Undeb na roddwyd ystyriaeth ofalus i bwyntiau ymarferol nac i faterion sy’n ymwneud ag addysgeg, wrth i’r Llywodraeth lunio ei chynlluniau ar gyfer blwyddyn ysgol ddiwygiedig.  Mae newidiadau sylweddol i galendr ysgol yn gofyn am waith cynllunio manwl, gan roi sylw i oblygiadau’r newidiadau hynny ar bob carfan. 

Wrth nodi y bwriad i ymestyn tymor yr haf, golyga hyn y bydd disgyblion yn yr ysgol yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru. Dyma binacl y flwyddyn i’r diwydiant amaethyddol, diwydiant sydd mor bwysig i Gymru. Bydd dileu wythnos o wyliau haf yn golygu y bydd gwyliau arweinwyr ac athrawon mewn ysgolion uwchradd yn cael eu tocio fwyfwy, gan fod derbyn canlyniadau arholiadau allanol ym mis Awst eisoes yn golygu eu bod yn colli wythnosau o’u gwyliau haf.

Wrth docio wythnos o dymor yr hydref, golyga hyn fod gan ysgolion wythnos yn llai i baratoi disgyblion ar gyfer arholiadau allanol a hynny yn ystod blwyddyn academaidd 2025-2026, yr union adeg y cyflwynir y cyrsiau TGAU newydd am y tro cyntaf. Mae byd addysg wedi wynebu heriau a newidiadau mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan orfod ymdopi gyda newidiadau chwyldroadol megis y  cwricwlwm newydd, deddfwriaeth ADY newydd, yn ogystal â’r holl heriau a ddaeth yn sgil y pandemig.

Cred yr Undeb mai’r ffordd orau o gefnogi ‘llesiant dysgwyr a staff’ yw drwy sicrhau cyfnod o sefydlogrwydd i ysgolion ac nid drwy gyflwyno mwy eto o newidiadau.

Rydym eisoes yn wynebu problemau recriwtio a chadw staff ac nid ydym am weld hyn yn gwaethygu fwyfwy, gyda’r holl newidiadau. 

COFIWCH

Mae modd mynegi eich barn am y newidiadau posibl drwy anfon eich ymateb i’r ymgynghoriad.  Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 12 Chwefror 2024.

Ewch i https://www.llyw.cymru/strwythur-y-flwyddyn-ysgol er mwyn darllen y ddogfen ymgynghori a dysgu sut i ymateb.