Cyngor i aelodau UCAC pan fydd undebau eraill yn streicio

30 Mehefin 2014

Cyngor i aelodau UCAC pan fydd undebau eraill yn streicio

Beth yw sefyllfa aelodau UCAC mewn ysgol pan fydd aelodau undebau eraill yn streicio?

Nid yw aelod o UCAC i weithredu mewn unrhyw fodd a all gael ei ddehongli’n weithred sy’n tanseilio gweithredu diwydiannol yr undebau eraill: 

  • Os yw’r sefydliad ar agor, disgwylir i athrawon weithio fel arfer a chyflawni eu dyletswyddau arferol
  • Ni ddylai pennaeth y sefydliad ofyn, na disgwyl, i athrawon na staff ategol ymgymryd â dyletswyddau staff sydd ar streic
  • Ni ddylai aelodau UCAC ymgymryd â dyletswyddau sy’n ychwanegol i’w gwaith arferol - yn enwedig os yw’r dyletswyddau hyn yn rhan o waith arferol person sy’n gweithredu’n ddiwydiannol. 
  • Gall y pennaeth rhoi gwaith penodol i staff, nad ydynt yn streicio, i'w gyflawni ar ddiwrnod y streic
  • Ond, ni ddylai’r pennaeth ail- drefnu digwyddiad fel HMS, er mwyn ei gynnal ar y diwrnod, a rhoi'r sawl sydd yn streicio dan anfantais
  • Os torrir y rheolau uchod, mi all adael yr unigolion a’r undeb ei hun yn agored i brosesau cyfreithiol. 
Gweler Taflen Wybodaeth UCAC am fanylion pellach:
Cyngor i Aelodau UCAC mewn Ysgolion ar adeg Streic gan Undebau Eraill
 
Cysylltwch â’ch Swyddog Maes os nad yw’r daflen yn ateb eich ymholiad.