Cynhadledd UCAC: Adroddiad gan y Llywydd Cenedlaethol

10 Ebrill 2017

Cynhadledd UCAC: Adroddiad gan y Llywydd Cenedlaethol

Fe rydd y gynhadledd flynyddol y cyfle i’r aelodau dderbyn adroddiadau am waith yr undeb ledled Cymru a thu hwnt ac i wyntyllu barn swyddogol yr undeb a chytuno arni. Trowyd y mwyafrif o’r cynigion yn benderfyniadau er mwyn llywio polisïau, gweithgareddau ac ymgyrchoedd UCAC ar gyfer y dyfodol.
 
Dechreuwyd sesiwn brynhawn Gwener gyda chynigion amrywiol a thros y deuddydd  bu  bron i 30 o benderfyniadau o dan y chwyddwydr. Penderfyniad pwysig iawn ar ddechrau’r cynigion oedd caniatáu diogelu un sedd ychwanegol ar y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer athro ym mhum mlynedd gyntaf ei yrfa addysgu, i gyfrannu fel sylwebydd heb bleidlais.
 
{module Cynhadledd Flynyddol 2017}
 
Rhai o’r cynigion pwysig eraill a drafodwyd oedd galw  ar Gymwysterau Cymru i sicrhau bod y manylebau ar gyfer pob pwnc yn cael eu rhyddhau mewn da bryd fel y gall athrawon baratoi ac fel bod adnoddau addas yn cael eu darparu yn y Gymraeg yr un pryd â’r Saesneg.  Pwysleisiodd Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg hyn yn ei haraith fore Sadwrn, gan nodi fod tegwch i bawb yn flaenoriaeth iddi.
 
I’r athrawon Uwchradd sy’n darllen hwn, hyderaf y gwnewch groesawu penderfyniadau a wnaethpwyd parthed Y Fagloriaeth – yn gyntaf bod Llywodraeth Cymru a CBAC yn sicrhau hyfforddiant priodol i athrawon sy’n dysgu’r pwnc ac i adolygu gweithdrefnau’r Fagloriaeth er mwyn lleihau’r llwyth gwaith a chostau darparu’r cwrs; yn ail, bod Cymwysterau Cymru yn ail ystyried y modd y mae’r Fagloriaeth yn cael ei strwythuro a’i dyfarnu.
 
Penderfynwyd yn y gynhadledd bod UCAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau POB DOSBARTH CYFNOD SYLFAEN sydd â niferoedd anghyfreithlon mewn dosbarth, yn unol â’r Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, er lles safonau disgyblion ac i leihau llwyth gwaith athrawon.
 
Wedi dychwelyd y noson gynt o Uwch Gynhadledd y Proffesiwn Dysgu yng Nghaeredin, lle bu Elaine, ein hysgrifennydd cyffredinol yn rhan o ddirprwyaeth Llywodraeth Cymru, croesawyd Kirsty Williams i’n plith ar y bore Sadwrn.
 
“Ni ddylem ofni her.” Cyfeiriodd ei bod am i’r proffesiwn dysgu, atgyfodi’r parch a welwyd yn y gorffennol a’i bod yn tristau wrth siarad ag athrawon sy’n teimlo eu bod yn cael eu tanbrisio o fewn y gymdeithas heddiw. Diolchodd hi i UCAC am fod ar flaen y gad o ran datganoli cyflog ac amodau gwaith.  I gloi, dywedodd “Gyda’n gilydd gallwn wneud y gwahaniaeth. Dyma’r amser i symud ymlaen gan adeiladu ar y sylfaen gadarn sydd yma yn barod.”
 
Yn ystod y penwythnos bu panel o arbenigwyr yn trafod y cwricwlwm newydd a’r camau nesaf sy’n wynebu ysgolion ac athrawon Cymru wrth roi ‘Cwricwlwm i Gymru’ ar waith. Diolch i Dr. Llinos Jones, Pennaeth Ysgol Bro Myrddin, Daniel Davies, dirprwy bennaeth Ysgol y Castell, Geraint Rees a Huw Foster Evans, ill dau o Lywodraeth Cymru, am eu cyflwyniadau a'u cyfraniadau arbennig.
 
Cafwyd trafodaeth bwrpasol dan arweiniad Elaine Edwards ein Hysgrifennydd Cyffredinol yn hwyrach ymlaen yn y prynhawn ar un o weledigaethau hir dymor Llywodraeth Cymru sef cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i filiwn  erbyn 2050. Rhannodd y cynadleddwyr eu syniadau hwy ar sut i sicrhau bod pob person ifanc 16 oed yng Nghymru yn rhugl yn yr iaith Gymraeg ac yn ei harddel bob dydd.
 
Nid yw gweld rholyn o bapur t? bach a Toblerone yn beth cyfarwydd yng nghynadleddau UCAC, ond  dyna a welwyd eleni gan gynadleddwr profiadol a aeth ati i gymharu llwyth gwaith/diffyg codiad cyflog i athrawon, gyda’r ddeubeth hyn!  Digon yw dweud y pasiwyd y cynnig yn unfrydol yng nghanol y chwerthin!
 
Nant Gwrtheyrn amdani yn 2018.  Dewch yn llu.
 
Gwenno Wyn
Llywydd Cenedlaethol UCAC

{module Cynhadledd Flynyddol 2017}