UCAC yn cynnal ei chynhadledd flynyddol wyneb yn wyneb cyntaf ers tair blynedd ar ddydd Gwener, 10 Mehefin 2022
09 Mehefin 2022
Bydd UCAC yn croesawu aelodau o Gymru ben baladr i Brifysgol Aberystwyth yfory am ei chynhadledd flynyddol wyneb yn wyneb cyntaf ers tair blynedd. Bydd nifer yn ymuno drwy TEAMS yn ogystal.
Dywed Dilwyn Roberts Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC - “Fe fydd yn bleser gallu cwrdd â Chynadleddwyr newydd a phrofiadol ym Mhrifysgol Aberystwyth yfory. Edrychwn ymlaen yn fawr at gael y cyfle i drafod a gosod polisi UCAC am y flwyddyn sydd i ddod.
Rydym yn disgwyl sawl trafodaeth fywiog, gyda chynigion yn galw ar y Gynhadledd i ystyried newid enw’r Undeb; estyn gwahoddiad i gymorthyddion ymuno â’r Undeb a gofyn i’r Llywodraeth i ystyried o ddifri eu cynlluniau o ran diwygio’r flwyddyn ysgol.