SENEDD IEUENCTID CYMRU

4 Gorffennaf 2023 

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnal arolwg ar hyn o bryd ynghylch hyd y diwrnod ysgol.  Maent yn holi’r cwestiwn a oes digon o amser yn y diwrnod ysgol ar gyfer pob math o weithgareddau.  Yn ôl y bobl ifanc nid oes digon o amser weithiau ar gyfer pethau mwy creadigol neu gorfforol.  Mae’r arolwg yn holi barn pobl ifanc ac oedolion.   Rydym yn annog aelodau UCAC i lenwi’r arolwg i oedolion, drwy ddilyn y ddolen ganlynol: 

 

https://seneddieuenctid.senedd.cymru/pwyllgorau/addysg-a-r-cwricwlwm-ysgol/

 

 Yn ôl yr arolwg:

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried newid hyd y diwrnod ysgol mewn grwpiau oedran ysgol gynradd ac ysgol uwchradd i weld a allai hyn gael effaith gadarnhaol ar y canlynol:

-          Lles a hyder pobl ifanc

-          Y gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig (fel ardaloedd tlotach) i gyflawni yn eu man dysgu 

-          Sgiliau cymdeithasol a phersonol pobl ifanc

Mae rhai treialon wedi'u cynnal lle ychwanegwyd 5 awr at yr wythnos ysgol (mewn rhai treialon mae hyn wedi golygu awr ychwanegol y dydd, mewn eraill mae’r oriau wedi’u rhannu ar draws 4 diwrnod). Yn y treialon hyn roedd pobl ifanc yn mynychu'n wirfoddol ac nid oedd unrhyw dâl yn cael ei godi ar bobl ifanc na rhieni/gwarcheidwaid. Roedd enghreifftiau o’r math o weithgareddau a gynhaliwyd yn ystod y treialon hyn yn cynnwys gweithgareddau corfforol, sesiynau i wella lles, a phrofiadau newydd efallai na fyddai pobl ifanc fel arfer wedi gallu eu fforddio, gan gynnwys pethau fel jiwdo, trin gwallt, celfyddydau digidol, gwyddbwyll, adrodd straeon, a gweithgareddau antur awyr agored.

Yn sicr byddai oblygiadau i athrawon a staff ysgolion pe bai hyd y diwrnod yn cael ei ymestyn.  Un o’r cwestiynau sy’n cael ei holi yw ‘Pwy ddylai fod yn gyfrifol am gynnal y mathau hyn o weithgareddau?’ ac ymhlith yr opsiynau mae ‘Staff mewn mannau dysgu (fel athro ysgol, neu gynorthwyydd addysgu)’

Ymhlith yr opsiynau a gynigir o ran pryd y dylid rhoi’r ‘amser ychwanegol’ at y diwrnod ysgol, ceir ystod o ddewisiadau, gan gynnwys ‘Cyn i wersi ddechrau yn y bore’ ‘Yn ystod amser cinio’ ac ‘Ar ôl i wersi orffen yn y prynhawn’ neu gyfuniad o’r rhain i gyd.

Gyda staff ysgol yn wynebu llwyth gwaith trwm a’r her i recriwtio a chadw athrawon yn dyfnhau, mae’n bwysig bod athrawon yn ‘dweud eu dweud’ ac yn mynegi eu barn am y cynigion sydd gerbron. 

Nid yw’n arolwg hir – ewch ati nawr i ddweud eich barn.  Mewn undeb mae nerth!

 

 

 

CYNHADLEDD DARPL

8 Mehefin 2023 

Bu cynrychiolwyr o UCAC mewn cynhadledd arbennig yng Nghaerdydd ar 8 Mehefin, cynhadledd a drefnwyd gan DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol).  Roedd gweld cynifer yn bresennol yn galonogol iawn a chafwyd diwrnod llawn, gyda nifer o siaradwyr blaenllaw o Gymru a thu hwnt yn siarad yn huawdl a grymus am eu profiadau o hiliaeth a sut y maen nhw wedi defnyddio’r profiadau negyddol hynny i weithredu ac ymgyrchu er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.  Roedd clywed am waith yr unigolion hyn yn brofiad arbennig ac yn anogaeth yn ogystal ag yn her. Wrth glywed areithiau a oedd yn anesmwytho ac yn ysgogi’r meddwl, atgoffwyd y cynadleddwyr o’r gwaith y mae angen ei gyflawni, er mwyn gallu gwireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o gael Cymru yn wlad wrth-hiliol erbyn 2030. 

 

CYNHADLEDD FLYNYDDOL UCAC

5-6 Mai 2023 

Cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol UCAC 2023 yng Ngwesty’r Coldra Court, ger Casnewydd ar 5-6 Mai, 2023.  Cafwyd cyfle i drafod materion byd addysg mewn cyfarfodydd ffurfiol, yn ogystal â chyfle i drafod a chymdeithasu yn anffurfiol. 

Roedd y cynigion a ddaeth gerbron yn adlewyrchiad teg o’r hyn sydd ar frig agenda byd addysg ar hyn o bryd , yn eu plith materion yn ymwneud ag amodau gwaith, y Cwricwlwm i Gymru, Bil Addysg y Gymraeg.   Mae’n siŵr y bydd y materion hyn yn bynciau trafod pellach o fewn yr undeb ac yn ehangach yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. 

Datblygiadau digidol a’r Cwricwlwm i Gymru oedd themâu ein siaradwyr eleni a braf oedd gwrando ar gyfraniadau ysbrydoledig Meredudd Jones ac Alan Thomas-Williams, y naill yn siarad am ei waith ym maes Technoleg Gwybodaeth a'r llall yn siarad am ei waith ar y Cwricwlwm i Gymru.    Cafwyd cyfle nid yn unig i glywed am y gwaith arbennig y mae’r ddau wedi ei wneud ond neilltuwyd amser hefyd i aelodau holi cwestiynau. 

 

AMDDIFFYN YR HAWL I STREICIO – RALI TUC CYMRU

3 Chwefror 2023

 

Ddydd Mercher, 1 Chwefror, roedd Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, ymhlith y siaradwyr yn rali TUC Cymru, Amddiffyn yr Hawl i Streicio.  Cynhaliwyd y rali yng Nghaerdydd mewn ymateb i’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth San Steffan i gyflwyno deddfwriaeth gwrth-undebol a fyddai’n cyfyngu ar hawliau unigolion i streicio.  Mae’r gyfraith arfaethedig yn golygu y gellid gorfodi gweithwyr i weithio, er eu bod wedi pleidleisio’n ddemocrataidd i streicio.  Dywedodd Ioan, “Mae’n bwysig ein bod yn amddiffyn rhyddid gweithwyr a’u hawl i leisio eu barn a gweithredu er mwyn amddiffyn eu cyflog a’u hamodau gwaith. Mae UCAC yn falch o sefyll dros hawliau ei haelodau.”

Roedd cannoedd yn bresennol yn y rali yng Nghaerdydd ac mae dros 200,000 o bobl eisoes wedi llofnodi deiseb yn erbyn y ddeddfwriaeth gwrth streicio.

Canlyniad Balot Diwydiannol UCAC

17 Ionawr 2023

Pleidleisiodd mwyafrif mawr o’r rhai a bleidleisiodd o blaid mynd ar streic, fodd bynnag, ni lwyddwyd i gyrraedd y trothwy angenrheidiol o 50% o bleidleisiau wedi eu dychwelyd i weithredu.

Pleidleisiau a fwriwyd fel canran o’r unigolion a oedd â’r hawl i bleidleisio   45.19%

Cwestiwn: Ydych chi’n barod i gymryd rhan mewn streic?

Nifer y papurau a ddifethwyd, neu yn annilys    0

Canlyniad y Bleidlais

Ydw    88.62%

Nac Ydw    11.38%

Byddwn felly yn ymgynnull cyfarfod brys o’r Cyngor Cenedlaethol wythnos nesaf i drafod y ffordd ymlaen. Yn y cyfamser bydd UCAC yn parhau i drafod gyda’r Llywodraeth a’r Awdurdodau ar ran aelodau o ran llwyth gwaith a chyflog.