ADNODDAU CYMRAEG I YSGOLION - ACHUB Y PLANT

 

24 Tachwedd 2023 

YSGOLION YN PARATOI I HELPU PLANT MWYAF BREGUS Y BYD AR DDIWRNOD SIWMPER NADOLIG ACHUB Y PLANT

 

Mae digwyddiad codi arian Diwrnod Siwmper Nadolig blynyddol Achub y Plant yn ôl eto eleni, ac mae’r elusen yn galw ar blant ysgol ledled Cymru i gymryd rhan ar ddydd Iau 7fed Rhagfyr.

 

Ers 2012, mae’r elusen wedi codi mwy na £35 miliwn ar gyfer plant yn fyd-eang, drwy alw ar ysgolion, teuluoedd a busnesau I ddod â gwên i’r byd mewn siwmper glyd.

 

Gyda’r oll sy’n digwydd ar draws y byd o ganlyniad i wrthdaro, newid hinsawdd a thlodi a’r ffaith bod yr argyfwng costau byw yn peri cymaint o ansicrwydd i deuluoedd yma yng Nghymru, mae’r elusen yn gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o ysgolion a disgyblion yn cymryd rhan yn yr ymgyrch eleni.

 

Mae’r elusen hefyd yn gobeithio gwneud y Diwrnod Siwmper Nadolig hwn y mwyaf cynhwysol a chynaliadwy eto ac mae’n annog athrawon a rhieni i  ailgylchu ac ail-greu yn hytrach na phrynu siwmper o’r newydd. Beth am annog y plant i ddod â hen siwmperi i mewn i’r ysgol y gallen nhw eu haddurno eu hunain yn y dosbarth? Neu beth am fynd ati i feddwl am weithgarwch codi arian fel ‘Addurno’r Athro’ neu sêl gacennau a mins peis.

Adnoddau Cymraeg ar gael i ysgolion

Cofrestrwch i gymryd rhan ar www.christmasjumperday.org ac unwaith i chi wneud hynny chwiliwch am y ddolen sy’n cynnwys yr adnoddau Cymraeg sy’n cynnwys pecyn yn llawn syniadau ar gyfer gweithgareddau creadigol i sicrhau y bydd eich Diwrnod Siwmper Nadolig yn llwyddiant. Mae yma hefyd bwynt pwer ar gyfer gwasanaeth ysgol a syniadau a thaflen gwers a nodiadau ar gyfer athrawon.

 

Croeso i chi hefyd gysylltu gydag Eurgain Haf ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. am gopïau. Dilynwch ni hefyd ar Twitter @savechildrencym a Facebook @savethechildrenwales a chofiwch rannu eich lluniau gyda ni ar drwy ddefnyddio #diwrnodsiwmpernadolig.

 

NEWID Y CALENDR GWYLIAU YSGOL

21 Tachwedd 2023 

Mae UCAC yn hynod o siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hymgynghoriad ar y flwyddyn ysgol heb ymgysylltu’n llawn o flaen llaw â’r undebau athrawon.  Teimla’r Undeb na roddwyd ystyriaeth ofalus i bwyntiau ymarferol nac i faterion sy’n ymwneud ag addysgeg, wrth i’r Llywodraeth lunio ei chynlluniau ar gyfer blwyddyn ysgol ddiwygiedig.  Mae newidiadau sylweddol i galendr ysgol yn gofyn am waith cynllunio manwl, gan roi sylw i oblygiadau’r newidiadau hynny ar bob carfan. 

Wrth nodi y bwriad i ymestyn tymor yr haf, golyga hyn y bydd disgyblion yn yr ysgol yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru. Dyma binacl y flwyddyn i’r diwydiant amaethyddol, diwydiant sydd mor bwysig i Gymru. Bydd dileu wythnos o wyliau haf yn golygu y bydd gwyliau arweinwyr ac athrawon mewn ysgolion uwchradd yn cael eu tocio fwyfwy, gan fod derbyn canlyniadau arholiadau allanol ym mis Awst eisoes yn golygu eu bod yn colli wythnosau o’u gwyliau haf.

Wrth docio wythnos o dymor yr hydref, golyga hyn fod gan ysgolion wythnos yn llai i baratoi disgyblion ar gyfer arholiadau allanol a hynny yn ystod blwyddyn academaidd 2025-2026, yr union adeg y cyflwynir y cyrsiau TGAU newydd am y tro cyntaf. Mae byd addysg wedi wynebu heriau a newidiadau mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan orfod ymdopi gyda newidiadau chwyldroadol megis y  cwricwlwm newydd, deddfwriaeth ADY newydd, yn ogystal â’r holl heriau a ddaeth yn sgil y pandemig.

Cred yr Undeb mai’r ffordd orau o gefnogi ‘llesiant dysgwyr a staff’ yw drwy sicrhau cyfnod o sefydlogrwydd i ysgolion ac nid drwy gyflwyno mwy eto o newidiadau.

Rydym eisoes yn wynebu problemau recriwtio a chadw staff ac nid ydym am weld hyn yn gwaethygu fwyfwy, gyda’r holl newidiadau. 

COFIWCH

Mae modd mynegi eich barn am y newidiadau posibl drwy anfon eich ymateb i’r ymgynghoriad.  Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 12 Chwefror 2024.

Ewch i https://www.llyw.cymru/strwythur-y-flwyddyn-ysgol er mwyn darllen y ddogfen ymgynghori a dysgu sut i ymateb.

CODIAD CYFLOG 5% I ATHRAWON YSGOL 2023-24

27 Medi 2023 

 

Cyn bod modd i athrawon  dderbyn y 5% o godiad cyflog eleni, yn unol â’r drefn arferol, mae’n rhaid i’r Llywodraeth gychwyn proses gyfreithiol cyn y gallant gyfarwyddo’r awdurdodau i dalu. Mae’n broses sydd yn cymryd rhyw wythnos.  Mewn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf, nododd y Llywodraeth y byddai’r  broses yn cychwyn cyn diwedd yr wythnos. Mawr obeithiwn felly y bydd yr awdurdodau yn derbyn y cyfarwyddyd erbyn diwedd yr wythnos hon. Yn ddibynnol ar weithdrefnau mewnol yr awdurdodau, dylai athrawon ysgol dderbyn y codiad cyflog un ai mis nesaf neu ym mis Tachwedd, hynny gydag ôl-daliad o fis Medi, wrth gwrs.

 

Cofiwch gysylltu ag UCAC os oes unrhyw ymholiad pellach o ran y codiad cyflog.

 

CYN-DREFNYDD CYFFREDINOL UCAC

Medi 2023 

Trist oedd clywed am farwolaeth un o gyn-weithwyr UCAC, sef Gareth Miles a fu yn drefnydd cyffredinol yr undeb yn y saithdegau.   Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol presennol yr undeb: 

"Roedd Gareth Miles yn ymgyrchydd gwleidyddol ac ieithyddol, yn awdur ymysg y disglair ac yn sylwebydd praff ar y byd a'i bethau. Creodd argraff mewn sawl maes ac i ni yma yn Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru [UCAC] roedd yn drefnydd cenedlaethol eithriadol o effeithiol a'i adnabyddiaeth o Gymru gyfan yn allweddol wrth i'r Undeb gynyddu yn ei dylanwad yn nyddiau cynnar y drafodaeth genedlaethol ar ddatganoli addysg. Wedi ei ddyddiau gydag UCAC roedd yn parhau'n llais cadarn o fewn TUC Cymru. Rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i'w deulu a'i gyfeillion."