SWYDD WAG - Swyddog Polisi
SWYDDOG POLISI
Mae UCAC yn chwilio am berson profiadol, brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar.
- Prif waith y Swyddog Polisi fydd paratoi a chydlynu polisïau UCAC mewn cydweithrediad â’r Ysgrifennydd Cyffredinol ac o dan arweiniad y Cyngor Cenedlaethol a’r Gynhadledd Flynyddol
- Hyrwyddo polisïau UCAC ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol
Cyflog cychwynnol y swydd: £49,820
Ceir ffurflen gais, disgrifiad swydd a manylion pellach isod.
DISGRIFIAD SWYDD a MANYLEB PERSON
FFURFLEN GAIS
Dyddiad cau: Tachwedd 2il, 2026 am 1 yp
Cyfweliadau: Tachwedd 10fed, 2026
01970 639950|Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
SWYDD WAG - Swyddog Aelodaeth a Gweinyddol Rhan Amser
Ail-Hysbyseb – Cyfle i weithio’n hyblyg
Swyddog Aelodaeth a Gweinyddol Rhan Amser 0.8 – Dros Dro (hyd at Ebrill 30ain, 2027)
Mae UCAC yn chwilio am berson profiadol, brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar.
Prif waith yr Swyddog Aelodaeth a Gweinyddol fydd:
- arwain ar faterion aelodaeth yr undeb gan gadw rhestr aelodaeth gyfredol yr Undeb, adnabod anghenion a chyfleoedd recriwtio’r Undeb a bod yn weithredol yn y broses recriwtio
- gweithredu fel Derbynnydd UCAC pan yn y Brif Swyddfa
- cefnogi’r Uwch Swyddog Gweinyddol i sicrhau gweinyddiaeth effeithiol i’r Undeb
Cyflog y swydd: £34,211 (pro- rata 4 diwrnod yr wythnos)
Ceir ffurflen gais, disgrifiad swydd a manylion pellach isod.
Dyddiad cau: Tachwedd 2il, 2026 am 1 yp
Cyfweliadau: Tachwedd 10fed, 2026
DISGRIFIAD SWYDD
MANYLEB PERSON
FFURFLEN GAIS
01970 639950|Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.