Cwestiynau'n codi am gymhwysterau Cymraeg

16 Chwefror 2022

Mewn ymateb i gyhoeddiad gan Gymwysterau Cymru heddiw ynghylch newidiadau i gymwysterau Cymraeg, dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC “Dim ond penawdau sydd wedi’u rhyddhau heddiw, heb fanylder ynghylch y penderfyniadau pwysig hyn. Deallwn y cyhoeddir yr adroddiad llawn ar 2 Mawrth ac edrychwn ymlaen at hynny. Yn y cyfamser, mae nifer fawr o gwestiynau o egwyddor, a chwestiynau ymarferol yn codi.

“Ar gyfer pob pwnc a maes yn y cwricwlwm, yr egwyddor sylfaenol yw bod disgyblion yn gwella ac yn datblygu yn barhaus, heb lithro am yn ôl. Nid ydym yn sicr yn sgil y wybodaeth a ryddhawyd heddiw, a fyddai disgybl sydd wedi cael addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a/neu sydd â’r Gymraeg ar yr aelwyd, ond sy’n mynychu ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn sefyll y cymhwyster Iaith a Llenyddiaeth, neu’r TGAU Cymraeg sy’n amlwg yn cyfateb i Gymraeg Ail Iaith. Rhaid sefydlu’n gwbl glir a chadarn yr egwyddor, a’r trefniadau ymarferol, i sicrhau cynnydd parhaus, waeth pa ‘gategori’ o ysgol mae disgybl yn mynychu.

“O ran cyfuno Iaith a Llenyddiaeth, yn sicr mi fydd rhaniad barn ymhlith y proffesiwn, gyda nifer yn teimlo’n gryf iawn nad yw hyn yn caniatáu rhoi’r gofod a’r statws priodol i Lenyddiaeth, er y gallai ehangu’r nifer sy’n ei astudio. Mae’n codi cwestiwn arall, sef beth yn union fydd maint y cymhwyster Iaith a Llenyddiaeth. Mae hyn yn bwnc llosg mewn perthynas â TGAU Saesneg yn ogystal.

“Mae UCAC yn deall anawsterau symud yn gyflym i un cymhwyster unedig ar gyfer pawb, ac i raddau yn cytuno bod angen gwneud hynny cam wrth gam. Fodd bynnag, byddem am weld amserlen bendant ar gyfer y datblygiadau hynny, fel bod eglurder i bawb yn y system ynghylch cyfeiriad ac amserlen y daith, a’r newidiadau sydd angen eu gwneud i gyrraedd y pwynt unedig hwnnw.”

Am fanylion pellach cysylltwch â:

Rebecca Williams: 07787 572180 / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.