UCAC yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor y Senedd ar Covid-19

15 Ionawr 2021 

Ar 14 Ionawr, bu Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol a Swyddog Polisi UCAC gerbron Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Senedd Cymru i drafod effaith Covid-19 ar ysgolion.

Roedd y sesiwn arlein, gyda chynrychiolwyr o 7 undeb sy’n cynrychioli staff ysgolion, yn edrych ar:

  • y tymor byr: tra bod ysgolion ar gau i’r rhan fwyaf o ddisgyblion
  • y tymor canolig: ail-agor ysgolion
  • y tymor canolig i hir: lles disgyblion a chynnydd academaidd

Cafwyd cyfle i drafod brechu’r gweithlu addysg, profi disgyblion am COVID-19 mewn ysgolion, awyru digonol, cyfarpar diogelu a phellter cymdeithasol, yn ogystal ag asesiadau yn lle arholiadau eleni.

Gallwch weld y sesiwn yma (am gyfnod penodol):

http://www.senedd.tv/Meeting/Clip/4c2ce194-748d-4ead-a9d7-071a1a03ccac?inPoint=01:45:28&outPoint=03:16:03

Bydd y cofnod ysgrifenedig ar gael cyn bo hir.