UCAC wedi colli un roddodd wasanaeth diflino i’r Undeb

09 Ionawr 2020

Mae UCAC wedi colli un roddodd wasanaeth diflino i’r Undeb ac i les athrawon a disgyblion ym mhob cwr o Gymru.

Bu Siân Cadifor yn ysgrifennydd sirol UCAC yn Rhondda Cynon Taf, yn aelod o’r Cyngor Cenedlaethol ac wedi cyfrannu at nifer o bwyllgorau’r Undeb dros y blynyddoedd gan gynnwys yr Adran Gydraddoldeb.

Roedd parch aruthrol iddi ymysg ein cyd-aelodau ac ymysg addysgwyr a hithau gyda chonsyrn am addysg y disgyblion a dros sicrhau lles yr athro yn ogystal ag awydd i weld Cymru’n llwyddo a’r Gymraeg yn ffynnu.

Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys gydag Elin a Rhun, ei brawd a’i chwaer, a gyda’r teulu cyfan.

Yn dilyn gwasanaeth preifat yn Amlosgfa Llangrallo, cynhelir gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Tabernacl, Efail Isaf am 12pm, ddydd Sadwrn, Ionawr 25ain, 2020.

Angen gwneud defnydd doeth o ganlyniadau PISA, meddai undeb addysg

3 Tachwedd 2019

Angen gwneud defnydd doeth o ganlyniadau PISA, meddai undeb addysg

Mewn ymateb i ganlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) a gyhoeddwyd heddiw gan yr OECD, mae undeb addysg UCAC wedi galw ar bawb i wneud defnydd doeth o’r data.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae canlyniadau PISA eleni’n rhoi cyfoeth o wybodaeth i ni ynghylch gwahanol agweddau o’n system addysg. Mae’r penawdau’n rhai cymharol galonogol – a dylid llongyfarch pawb am hynny. Ond rhaid mynd y tu hwnt i’r penawdau hefyd.

“Mae’n ymddangos bod rhai o’r diwygiadau sydd wedi’u gwneud eisoes yn dechrau talu ffordd. Ond rhaid cofio bod y diwygiadau mawr i’r cwricwlwm, y trefniadau asesu a’r systemau atebolrwydd eto i’w gweithredu. Ac mae angen inni ganolbwyntio ar eu gweithredu nhw mewn modd trefnus ac effeithiol dros y blynyddoedd nesaf os ydynt am ein helpu ar ein taith tuag at wella addysg i bawb yng Nghymru.

Darllen mwy

Gwrthsefyll y Dde Eithafol

29 Hydref 2019

Gwrthsefyll y Dde Eithafol

Mae TUC Cymru wedi cynhyrchu eNodyn mewn ymateb i gynnydd yng ngweithgareddau’r dde eithafol yn ein gweithleoedd a'n cymunedau.

Mae’r adnodd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg yma:

https://www.tuc.org.uk/cy/farright

Mae’r eNodyn yn:

  • esbonio pwy yw'r dde eithafol a pham rydym ni'n eu gwrthwynebu;
  • rhoi awgrymiadau ymarferol i chi ar sut mae ymgyrchu yn erbyn y dde eithafol;
  • rhoi cyfle i chi ymarfer ateb cwestiynau anodd y gallech chi eu cael.

Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi anfon neges o gefnogaeth isod at undeb addysg yn Catalonia a hynny yn y Gatalaneg, Cymraeg a Saesneg.

28 Hydref 2019

Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi anfon neges o gefnogaeth isod at undeb addysg yn Catalonia a hynny yn y Gatalaneg, Cymraeg a Saesneg.

Annwyl Frodyr a Chwiorydd,

Rwy’n ysgrifennu atoch yn rhinwedd fy swydd fel Ysgrifennydd Cyffredinol, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC).

Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid a darlithwyr dros Gymru gyfan – yr unig undeb llafur sydd ar gyfer Cymru yn benodol.

Mae’r ohebiaeth hwn mewn ymateb i’r cais gennych am undod o fewn Catalonia a thu hwnt i’r egwyddorion hynny sy’n arwain at alw am ryddhau carcharorion gwleidyddol Catalonia sy’n gaeth oherwydd anghyfiawnder.

Rydym yn condemnio’r bygythiad parhaus i bobol Catalonia ac yn cefnogi eich datganiad mai ‘ein dyletswydd bob amser yw hyrwyddo deialog, ysbryd beirniadol, parch at amrywiaeth, cyfranogiad dinasyddion mewn materion cyhoeddus, a datrys gwrthdaro yn ddemocrataidd’.

Rydym yn sefyll gyda chi fel Undeb sy’n credu’n gryf yn rôl a phŵer addysg i hyrwyddo’r egwyddorion a’r dyletswyddau uchod, ac i feithrin cenedlaethau o ddinasyddion egwyddorol, cydwybodol a chreadigol yn ein gwledydd.

Byddwn, wrth reswm, yn meddwl amdanoch ar adeg mor anodd.

Darllen mwy

Croeso i godiad cyflog ond nid ar draul toriadau i gyllidebau ysgolion

22 Hydref 2019

Croeso i godiad cyflog ond nid ar draul toriadau i gyllidebau ysgolion

Mewn ymateb i gyhoeddiad gan Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC ar 22 Hydref ynghylch dyfarniad cyflog i athrawon ysgol ar gyfer 2019-20, mae undeb athrawon UCAC wedi rhybuddio na ddylai’r codiad cyflog ddod ar draul toriadau pellach i gyllidebau ysgolion.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Er ein bod ni wedi galw am godiad cyflog o 5% i bawb yn y proffesiwn, mae UCAC yn cydnabod bod y dyfarniad o 2.75% yn symud i gyfeiriad adfer gwerth cyflogau athrawon.

“Rydym yn croesawu, yn ogystal, y ffaith bod y Gweinidog wedi rhagori ar argymhelliad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, sef 2.4%.

Darllen mwy