TGAU CYMRAEG Iaith a Llenyddiaeth - CYFLE I FYNEGI BARN
Mehefin 2026
Mae nifer o'n haelodau wedi mynegi pryderon am y llwyth gwaith ychwanegol sydd ynghlwm wrth y cymwysterau TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Gradd Unigol a Dwyradd) newydd. Mae UCAC wedi codi pryderon ein haelodau gyda'r bwrdd arholi. Yn sgil y pryderon sydd wedi eu mynegi, mae CBAC yn ystyried rhai newidiadau posibl ac yn gofyn am adborth rhanddeiliaid ar yr opsiynau hyn. Anogwn ein haelodau i ddarllen am yr opsiynau posibl ac i ymateb i'r arolwg. Er mwyn darllen mwy am y cynigion, dilynwch y ddolen isod:
Dweud eich dweud! Cyfrannwch eich llais at ddyfodol TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg
Er mwyn ymateb i'r arolwg, ewch i:
https://www.surveymonkey.com/r/5JWJCR3
Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar y cyfle hwn i ddweud eich barn!
CYFLE AM SWYDD
14 Mai 2026
Uwch Swyddog Gweinyddol
Mae UCAC yn chwilio am berson profiadol, brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar.
Prif waith yr Uwch Swyddog Gweinyddol fydd:
- Rheoli gwaith gweinyddol Swyddfa UCAC o ddydd i ddydd
- Cydlynu gwaith cyfathrebu a threfnu UCAC
- Gweithredu fel cydlynydd Iechyd a Diogelwch
Cyflog cychwynnol y swydd: £37,139
Ceir ffurflen gais, disgrifiad swydd a manylion pellach YMA.
www.ucac.cymru
Dyddiad cau: Mehefin 8fed, 2026
Cyfweliadau: Mehefin 11eg, 2026
01970 639950|Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.