Pryderon UCAC am asesiadau allanol yn yr haf
15 Ionawr 2021
Ddoe, ysgrifennodd UCAC at Gymwysterau Cymru i fynegi pryderon difrifol am unrhyw ymgais i gynnal asesiadau allanol, yn lle arholiadau, cyn diwedd y flwyddyn ysgol hon.
Mae UCAC yn gadarn o’r farn bod angen cyhoeddiad ar fyrder ar y trefniadau ar gyfer asesiadau’r haf. Rhaid i’r trefniadau hynny fod yn ddigyfnewid ac yn gallu gwrthsefyll y sefyllfa waethaf o ran diffyg addysg wyneb-yn-wyneb dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod.