CYNHADLEDD FLYNYDDOL UCAC

5-6 Mai 2023 

Cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol UCAC 2023 yng Ngwesty’r Coldra Court, ger Casnewydd ar 5-6 Mai, 2023.  Cafwyd cyfle i drafod materion byd addysg mewn cyfarfodydd ffurfiol, yn ogystal â chyfle i drafod a chymdeithasu yn anffurfiol. 

Roedd y cynigion a ddaeth gerbron yn adlewyrchiad teg o’r hyn sydd ar frig agenda byd addysg ar hyn o bryd , yn eu plith materion yn ymwneud ag amodau gwaith, y Cwricwlwm i Gymru, Bil Addysg y Gymraeg.   Mae’n siŵr y bydd y materion hyn yn bynciau trafod pellach o fewn yr undeb ac yn ehangach yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. 

Datblygiadau digidol a’r Cwricwlwm i Gymru oedd themâu ein siaradwyr eleni a braf oedd gwrando ar gyfraniadau ysbrydoledig Meredudd Jones ac Alan Thomas-Williams, y naill yn siarad am ei waith ym maes Technoleg Gwybodaeth a'r llall yn siarad am ei waith ar y Cwricwlwm i Gymru.    Cafwyd cyfle nid yn unig i glywed am y gwaith arbennig y mae’r ddau wedi ei wneud ond neilltuwyd amser hefyd i aelodau holi cwestiynau. 

 

AMDDIFFYN YR HAWL I STREICIO – RALI TUC CYMRU

3 Chwefror 2023

 

Ddydd Mercher, 1 Chwefror, roedd Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, ymhlith y siaradwyr yn rali TUC Cymru, Amddiffyn yr Hawl i Streicio.  Cynhaliwyd y rali yng Nghaerdydd mewn ymateb i’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth San Steffan i gyflwyno deddfwriaeth gwrth-undebol a fyddai’n cyfyngu ar hawliau unigolion i streicio.  Mae’r gyfraith arfaethedig yn golygu y gellid gorfodi gweithwyr i weithio, er eu bod wedi pleidleisio’n ddemocrataidd i streicio.  Dywedodd Ioan, “Mae’n bwysig ein bod yn amddiffyn rhyddid gweithwyr a’u hawl i leisio eu barn a gweithredu er mwyn amddiffyn eu cyflog a’u hamodau gwaith. Mae UCAC yn falch o sefyll dros hawliau ei haelodau.”

Roedd cannoedd yn bresennol yn y rali yng Nghaerdydd ac mae dros 200,000 o bobl eisoes wedi llofnodi deiseb yn erbyn y ddeddfwriaeth gwrth streicio.

Canlyniad Balot Diwydiannol UCAC

17 Ionawr 2023

Pleidleisiodd mwyafrif mawr o’r rhai a bleidleisiodd o blaid mynd ar streic, fodd bynnag, ni lwyddwyd i gyrraedd y trothwy angenrheidiol o 50% o bleidleisiau wedi eu dychwelyd i weithredu.

Pleidleisiau a fwriwyd fel canran o’r unigolion a oedd â’r hawl i bleidleisio   45.19%

Cwestiwn: Ydych chi’n barod i gymryd rhan mewn streic?

Nifer y papurau a ddifethwyd, neu yn annilys    0

Canlyniad y Bleidlais

Ydw    88.62%

Nac Ydw    11.38%

Byddwn felly yn ymgynnull cyfarfod brys o’r Cyngor Cenedlaethol wythnos nesaf i drafod y ffordd ymlaen. Yn y cyfamser bydd UCAC yn parhau i drafod gyda’r Llywodraeth a’r Awdurdodau ar ran aelodau o ran llwyth gwaith a chyflog.

Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022

21 Tachwedd 2022 

Mae Dogfen Cyflog ac Amodau Gwaith Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 bellach ar wefan llywodraeth Cymru. 

Isod mae dolenni i ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, yn derbyn holl argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar gyfer 2022/23 ac i’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Gwaith Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 ddiwygiedig. 

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-dyfarniad-cyflog-athrawon-2022 

https://llyw.cymru/dogfen-cyflog-ac-amodau-athrawon-ysgol-cymru-2022 

Os ydych yn gweithio'n rhan amser ac yn derbyn CAD, cofiwch ei bod yn bwysig gwirio gyda’ch pennaeth a ydych yn gymwys bellach i dderbyn CAD yn llawn.

Newidiadau i drefniadau sefydlu statudol athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru

7 Tachwedd 2022 
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i newid trefniadau sefydlu statudol athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru, mae newidiadau’n dod i rym o 7 Tachwedd. Cyhoeddwyd rheoliadau sefydlu a chanllawiau diwygiedig yr wythnos hon ar gyfer pob parti sy’n ymwneud â threfniadau sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru.

Mae’r newidiadau’n cynnwys:
  • caniatáu ymgymryd â chyfnod sefydlu mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion

  • cyflwyno hyblygrwydd: mae gan Gyrff Priodol ddisgresiwn i leihau hyd y cyfnod sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso sy’n gallu dangos eu bod yn bodloni’r safonau proffesiynol mewn llai na thri thymor / 380 o sesiynau 

  • cyflwyno terfyn amser ar gyfer cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol 

Mae canllawiau diwygiedig ar yr holl newidiadau wedi’u cyhoeddi ar Hwb.